Geiriadur Prifysgol Cymru

A Dictionary of the Welsh Language

Edited by Gareth A. Bevan and Patrick J. Donovan

Volume 1: (A – Ffysur) Parts I–XXI (Bound) pp xx1366, £99.00 ISBN 0-7083-0504-0
Volume 2: (G – Llyys) Parts XXII–XXXVI (Bound) pp xxi925, £99.00 ISBN 0-7083-0981-X
Volume 3: (M –Rhywyr) Parts XXXVII–L (Bound) pp xxxii896, £99.00 ISBN 0-7083-1530-5
Volume 4: (S – Zwinglïaidd) Parts LI–LXI (Bound) ppxii746 £99.00 ISBN 0-7083-1804-5
Complete set of four volumes sold together: £350.00 ISBN 0-7083-1806-1

The dictionary is an indispensable reference work to anyone who wishes to study the Welsh language or its literature, but it is also invaluable in the fields of historical studies, onamastics, folklore, comparative linguistics, philology, and numerous other areas. It would be a valuable resource to any school or college library, and it is priced reasonably enough for private purchases. See www.wales.ac.uk/dictionary for further details.

Tudalennau rhagarweiniol Geiriadur Prifysgol Cymru

University of Wales Dictionary Preliminary Pages

Yn achos Cyfrol 1, roedd dwy set o dudalennau rhagarweiniol yn wreiddiol, un yn rhan o'r rhifyn cyntaf  (xx tudalen) a set arall ar wahân (i–xvi, ond yn hepgor y Llyfryddiaeth) a oedd yn wreiddiol ar werth fel pecyn gyda chloriau rhwymo cyfrol 1. Nid oes copïau gennym bellach o dudalennau rhagarweiniol Cyfrol 1 (er bod cloriau rhwymo ar gael o hyd) ond bwriadwn eu rhoi ar wefan Geiriadur Prifysgol Cymru fel ffeil pdf  y bydd modd ei danlwytho’n rhad ac am ddim.

 Cyhoeddodd tudalennau rhagarweiniol Cyfrolau 2 a 3 yn rhifyn olaf y ddwy gyfrol  (sef rhifyn XXXVI a rhifyn L,  felly nid ydynt ar gael ar wahân). Gan fod y rhifyn terfynol (LXI) mor fawr, penderfynwyd cyhoeddi’r tudalennau rhagarweiniol fel adran ar wahân a’i gwerthu fel pecyn gyda chlawr rhwymo cyfrol 4 (ar wahân i’r Llyfryddiaeth sydd yn rhifyn LXI).

 Felly dylai tudalennau rhagarweiniol Cyfrolau 2 a 3 fod gyda'r tanysgrifwyr yn barod, ond nid rhai Cyfrolau 1 a 4, oni bai iddynt brynu'r cloriau rhwymo adeg cwblhau’r cyfrolau.

Two sets of preliminary pages were published for Volume 1: the original set was published in Part I of the Dictionary (xx pages) and the revised preliminary pages (i – xvi, without the Bibliography) were originally sold as a package with the binding case for Volume 1. We no longer stock copies of the revised preliminary pages (although the binding case is still available) so we intend putting these pages on the Dictionary web site as a pdf file which customers will be able to download free of charge.

 Preliminary pages for Volumes 2 and 3 were published in the last parts of each volume (parts XXXVI and L respectively, so they are not available separately). Because the last issue (LXI) was so large, it was decided to publish the preliminary pages separately and sell them with the binding case for Volume 4 (apart from the Bibliography which was included in part LXI).

 So subscribers should already have the preliminary pages for Volumes 2 & 3, but not 1 and 4 unless they have bought the binding cases when the volumes were completed.

 

Geiriadur Prifysgol Cymru

Golygwyd gan R. J. Thomas, Gareth A. Bevan, a Patrick J. Donovan

Cyfrol 1: (A–Ffysur) Rhannau I–XXI (Wedi ei rhwymo) tt xx1366, £99.00 ISBN 0-7083-0504-0
Cyfrol 2: (G–Llyys) Rhannau XXII–XXXVI (Wedi ei rhwymo) tt xxi925, £99.00 ISBN 0-7083-0981-X
Cyfrol 3: (M–Rhywyr) Rhannau XXXVII–L (Wedi ei rhwymo) tt xxxii896, £99.00 ISBN 0-7083-1530-5
Cyfrol 4: (S–Zwinglïaidd) Rhannau LI–LXI (Wedi ei rhwymo) tt xii746 £99.00 ISBN 0-7083-1804-5
Set gyfan o bedair cyfrol gyda'i gilydd: £350.00 ISBN 0-7083-1806-1

Y mae'r Geiriadur yn gyfeirlyfr hanfodol i unrhyw un a fyn astudio'r Gymraeg a'i llenyddiaeth, ond y mae hefyd yn amhrisiadwy ym meysydd hanes, enwau lleoedd, llên gwerin, ieithyddiaeth gymharol, ieitheg, a llawer o feysydd eraill. Byddai'r Geiriadur yn adnodd gwerthfawr i unrhyw lyfrgell ysgol neu goleg, ac mae'r pris yn ddigon rhesymol i unigolion ei brynu. Gweler www.cymru.ac.uk/geiriadur am fanylion pellach.

AIL ARGRAFFIAD

Golygwyd gan Gareth A. Bevan a Patrick J. Donovan
ISSN 0072-0542

Yn 2002 cyhoeddwyd cyfrol olaf Geiriadur Prifysgol Cymru, gan gwblhau'r geiriadur hanesyddol Cymraeg cyflawn cyntaf erioed. Y mae dros hanner canrif wedi mynd heibio oddi ar gyhoeddi'r rhan gyntaf o'r Geiriadur yn 1950, adeg pan nad oedd testunau mor sylfaenol â golygiad Thomas Parry o waith Dafydd ap Gwilym wedi eu cyhoeddi, heb sôn am yr holl destunau sydd wedi ymddangos oddi ar hynny. Yn ystod yr un cyfnod y mae llu o eiriau newydd wedi dod yn rhan annatod o'r iaith – nid termau technegol yn unig ond geiriau a ystyrir yn rhan o'r iaith ac a glywir ar y radio a'r teledu bob dydd, fel cyfrifiadur, cymuned, a chyfathrebu.

Paratowyd y rhannau sy'n trin geiriau'n dechrau ag a- a b- ar raddfa lawer cynilach na gweddill y Geiriadur. Y mae'r staff ar hyn o bryd yn ailolygu testun y Geiriadur i safon rhannau olaf yr argraffiad cyntaf yng ngoleuni'r holl slipiau ychwanegol sydd wedi eu casglu er cyhoeddi'r rhannau cynharaf, gan ddefnyddio'r dulliau diweddaraf o chwilio am enghreifftiau pellach ac am eiriau newydd. Amcangyfrifir y bydd maint y rhan hon o'r Geiriadur yn dyblu, a chyhoeddir ffrwyth yr ymchwil newydd ar ffurf rhannau 64-tudalen.

Caiff tanysgrifwyr i'r gwaith (yn sefydliadau neu'n unigolion) ostyngiad o draean yn y pris arferol gan dalu £6.66 y rhan yn unig, a hynny drwy gerdyn credyd os dymunir. Caiff tanysgrifwyr newydd brynu'r rhannau sydd wedi ymddangos eisoes am yr un pris gostyngol. Ceir manylion llawn am y Geiriadur ar www.cymru.ac.uk/geiriadur.