Crefydd a Chymdeithas
Astudiaethau
ar Hanes y Fydd Brotestannaidd yng Nghymru C.1559-1750
Cyfrol yw hon a luniwyd o nifer o ysgrifau ar wahanol agweddau ar dwf y ffydd
Brotestannaidd yng Nghymru o’i ddechreuad yn yr unfed ganrif ar bymtheg hyd at
flynyddoedd canol y ddeunawfed ganrif.
Astudiaethau annibynnol a geir ynddi, ac mae naw ohonynt yn ffrwyth cyhoeddiadau a ymddangosodd eisoes ac a ddiweddarwyd mewn cynnwys a nodiadau cyfeiriol. Cyfraniadau newydd yn y Gymraeg yw’r gweddill, a’r bwriad yw dangos fel y bu i newidiadau crefyddol gael dylanwad ar y gymdeithas yng Nghymru – yn genedlaethol a lleol -- o ganrif y Tuduriaid ymlaen hyd at y Diwygiad Methodistaidd pan oedd yr Eglwys Wladol yn ddiffygiol o ran ei threfniadaeth a’i harweinyddiaeth, a’r mudiad deinamig newydd ynddi yn ennill tir. Neilltuir bron i hanner yr ysgrifau yn benodol i ystyried llafur rhai unigolion blaengar a phwysigrwydd eu cynnyrch llenyddol yn yr Eglwys Brotestannaidd, sef William Morgan, Maurice Kyffin, Huw Lewys, Richard Parry a Lewis Bayly.
Hybwyd buddiannau’r ffydd ganddynt yn wyneb gwendidau mewnol yr Eglwys, bygythiadau Pabyddol ac effeithiau cynyddol Piwritaniaeth oddi mewn ac oddi allan iddi. Cynllunir yr ysgrifau sy’n weddill ar ffurf themâu cyfnodol gyda’r bwriad o asio ynghyd y datblygiadau crefyddol ymhlith gwŷr eglwysig, yn esgobion ac offeiriaid lleol, a lleygwyr i amlygu’r dulliau a ddefnyddiwyd i atgyfnerthu’r Eglwys Wladol Brotestannaidd ac amddiffyn ei hygrededd. Nid bod yr Eglwys honno wedi llwyr ddihysbyddu ei hegnïon. Meddai ar rai cryfderau amddiffynnol ac ymosodol a’i galluogai i raddau i wrthsefyll ei gelynion, ond fe’i llyffetheiriwyd gan ei hetifeddiaeth ganoloesol a’i rhwystro rhag sefydlu a chynnal ei hawdurdod gwladol yn llawn. Yn y cyd-destun hwn trafodir yr ethos Piwritanaidd a Methodistaidd a chyfraniad y mudiadau hynny a rhai o’u harweinwyr i hyrwyddo’r bywyd ysbrydol yn ôl eu gweledigaeth ymhlith y Cymry yn y canrifoedd modern cynnar.
Mae John Gwynfor Jones yn Athro Hanes Cymru yn yr Ysgol Hanes ac Archaeoleg, Prifysgol Caerdydd. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar hanes cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg yng Nghymru. Mae ei gyhoeddiadau diweddaraf yn cynnwys Beirdd yr Uchelwyr a’r Gymdeithas yng Nghymru c.1536–1640 a Conflict, Continuity and Change: Essays and Studies.