Lloffion ym Maes Crefydd

Ysgrifau ar Grefydd yn y Byd Cyfoes

 

pp xii224 216x138mm Mai 2007 Clawr Caled
ISBN-10: 0-7083-2082-1 ISBN-13: 978-0-7083-2082-2



      

Mae prinder deunydd o’r fath yn golygu y byddai’r Wasg yn gwneud cymwynas fawr drwy ei chyhoeddi. Byddai’n gyfrol Gymraeg unigryw yn y Gymru gyfoes.” 

“Y mae cyhoeddiadau eraill Dr. Pope a’r amlinelliad a geir yma yn sicrhau, heb unrhyw amheuaeth, fod safon y gyfrol hon yn hollol addas i’w chyhoeddi gan Wasg y Brifysgol.”

Adroddiad i’r Wasg           

Casgliad o ysgrifau ar bynciau crefyddol a diwinyddol yng nghyd-destun y byd cyfoes yw’r gyfrol hon. Y ddolen gyswllt rhwng yr ysgrifau yw eu diddordeb mewn materion cyfoes (megis y drafodaeth ar grefydd a’r sinema ac amlygrwydd ffwndamentaliaeth yn y byd) a’r defnydd o ddiffiniadau diweddar yn y maes diwinyddol.

Bydd o ddiddordeb i’r sawl sy’n dilyn cyrsiau yn y Gymraeg mewn mwy nag yn Adran yn y Brifysgol. Bydd hefyd yn cael marchnad ymhlith gweinidogion, offeiriaid a lleygwyr darllengar sydd eisiau deall yn well sefyllfa crefydd yn y byd. 

Awdur

Robert Pope, Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, Prifysgol Cymru, Bangor.