Manawydan Uab Llyr

Trydedd Gainc y Mabinogi

 

pp xii224 216x138mm Gorffennaf 2007 Clawr Caled
ISBN: 978-0-7083-2156-0



      

Dyma argraffiad cyntaf y gyfrol hon, trydedd gainc y Mabinogi, yn y Gymraeg ers cyfrol arloesol Ifor Williams, Pedeir Keinc y Mabinogi, 75 blynedd yn ôl. Yn ogystal a thestun Manawydan uab Llyr, cynigwyd dadansoddiad manwl o’r testun gan wneud y gyfrol yn gydymaith astudio delfrydol. Mae’r argraffiad yn cynnwys testun o Lyfr Gwyn Rhydderch, gwahanol ddarlleniadau o Lyfr Coch Hergest a rhan o’r testun ym Mheniarth 6 (a hepgorwyd o argraffiadau blaenorol). Ceir cyflwyniad hir sydd yn gosod y testun yn ei gyd-destun ac sydd yn ôl gwreiddiau y cymeriadau yr ydym yn cwrdd â yn nhrydedd gainc y Mabinogi. Ceir nodiadau manwl a geirfa lawn hefyd.

 

Awdur

Mae Dr Ian Hughes yn ddarlithydd yn adran Gymraeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Cyhoeddwyd amryw o lyfrau ar lenyddiaeth Gymraeg a Gwyddeleg ganddo, gan gynnwys Math uab Mathonwy: Pedwaredd Gainc y Mabinogi.