Items Ordered:, Cart Value:
Quick search
Online Catalogue
:
Teitlau Cymraeg
:
Hanes
:
Cyfres Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg
Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb
(ISBN 0-7083-1411-2)
Yr Iaith Gymraeg cyn y Chwyldro Diwydiannol<
Golygwyd gan Geraint H. Jenkins
Dyma'r gyfrol gyntaf mewn cyfres arloesol o astudiaethau safonol ar hanes cymdeithasol yr iaith Gymraeg oddi ar 1536. Ceir ynddi ddeuddeg pennod, wedi eu hysgrifennu gan arbenigwyr yn y maes. Ac eithrio'r bennod gyntaf, a neilltuwyd i drafod hanes y Gymraeg yn yr Oesoedd Canol, y mae'r gyfrol yn ymdrin yn bennaf â hanes cymdeithasol yr iaith yn y cyfnod rhwng y Deddfau Uno a'r Chwyldro Diwydiannol. Trafodir y modd y ceisiwyd dyrchafu ei statws a'i bri mewn amryfal feysydd er mwyn dileu'r gwarthnod a roddwyd arni gan y 'cymal iaith' ym 1536 ac er mwyn ei chyfoethogi a'i diogelu at y dyfodol.
Am fwy o fanylion cliciwch yma
Pris: £9.99
Gwnewch Bopeth yn Gymraeg: Yr Iaith Gymraeg a'i Pheuoedd, 1801 - 1911
(ISBN 0708315739)
Hon yw'r bumed gyfrol mewn cyfres arloesol o astudiaethau safonol ar hanes cymdeithasol yr iaith Gymraeg. Ceir ynddi ddwy bennod ar hugain, wedi eu llunio gan arbenigwyr cydnabyddedig, yn ymdrin â statws y Gymraeg mewn gwahanol beuoedd cymdeithasol, gan gynnwys amaethyddiaeth a diwydiant, addysg, crefydd, gwleidyddiaeth, cyfraith a diwylliant. Trafodir hefyd ymagweddau at y Gymraeg a'r ymgais i wrthsefyll y duedd i'w gwthio i'r cyrion. `Gwnewch bopeth yn Gymraeg' oedd apêl y bardd Mynyddog, a thystia'r gyfrol hon i'r ymdrechion dygn a wnaed i'w diogelu a'i hadfywio.
Am fwy o fanylion cliciwch yma
Pris: £12.50
Miliwn o Gymry Cymraeg! Yr Iaith Gymraeg a Chyfrifiad 1891
(ISBN 0708315372)
'Fe fydd y gyfrol arloesol hon bellach yn "ddarllen hanfodol" i bwy bynnag a fyn drafod tynged yr iaith ar ddiwedd canrif arall yn ei hanes a bydd yn dda i bawb sydd â gofal am yr iaith wrth ei goleuni a ninnau'n gwybod pa mor wirioneddol broblematig yw ei dyfodol.' (Barn)
Am fwy o fanylion cliciwch yma
Pris: £15.00
Iaith Carreg fy Aelwyd: Iaith a Chymuned yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
(ISBN 978-0-7083-1462-3)
Am fwy o fanylion cliciwch yma
Pris: £9.99
`Eu Hiaith a Gadwant? Y Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif
(ISBN 0-708316573)
Am fwy o fanylion cliciwch yma
Pris: £14.99