Up Catalog Search View Cart Checkout Send Mail Login

Items Ordered:, Cart Value:
Quick search 



Prifysgol Bangor, 1884-2009Prifysgol Bangor, 1884-2009 (ISBN 9780708322307)
Mae'r gyfrol hon yn ymwneud ag un o sefydliadau addysg uwch pwysicaf Cymru, yn cwmpasu ei hanes o'i greu ym 1884 fel Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, ei ymgnawdoliad fel Prifysgol Cymru, Bangor a'i ben-blwydd yn 125 oed yn 2009. 
Am fwy o fanylion cliciwch yma

Price:   £29.99 


Brwydr i Baradwys?: Y Dylanwadau ar Dwf Ysgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru  (ISBN 9780708322970)
Dadansodda'r gyfrol arloesol hon y dylanwadau niferus, amlhaenog a chyd-adweithiol ar dwf rhyfeddol Ysgolion Cymraeg de-ddwyrain Cymru. Nid hanes mohoni, ond astudiaeth aml-ddisgyblaethol ieithyddol, gymdeithasol, seicolegol, wleidyddol, ac addysgol, a ddadansodda'r brwydro y dadleuir fu'n bennaf gyfrifol am wrthdroi'r shifft ieithyddol. Llawn cyn ryfedded yw'r ffaith na wnaed astudiaeth gyffelyb cyn hyn. 
Am fwy o fanylion cliciwch yma

Price:   £48.00 

Brwydr i Baradwys?: Y Dylanwadau ar Dwf Ysgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru


Manawydan Uab LlyrManawydan Uab Llyr (ISBN 9780708321560)
Dyma argraffiad cyntaf y gyfrol hon, trydedd gainc y Mabinogi, yn y Gymraeg ers cyfrol arloesol Ifor Williams, Pedeir Keinc y Mabinogi, 75 blynedd yn ôl. Yn ogystal a thestun Manawydan uab Llyr, cynigwyd dadansoddiad manwl o'r testun gan wneud y gyfrol yn gydymaith astudio delfrydol.
 
Am fwy o fanylion cliciwch yma

Price:   £15.00 


Rhoi Cymru'n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru Cyfrol 1 (ISBN 0708317561)
'Awdurdodol, trwyadl, di-dderbyn-wyneb, angerddol - a chwbl afaelgar.'
Cynog Dafis

'Dyma gyfrol sy'n gyfuniad o ddadansoddi eglur ar syniadaeth cenedlaetholdeb yn gyffredinol a dehongli meistrolgar ar syniadaeth wleidyddol prif arweinwyr P1aid Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae'n gynhwysfawr, yn awdurdodol, a chyffrous o bryfoclyd mewn mannau. Ni all y sawl a'i darlleno beidio ag ymateb yn fywiog iddi. Bydd yn arweiniad diogel i'r sawl sy'n anghyfarwydd â'r maes; bydd hefyd yn agoriad llygaid i sawl 'hen law'.'
Dr Meredydd Evans
 
Am fwy o fanylion cliciwch yma

Price:   £18.99 

Rhoi Cymru'n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru Cyfrol 1


Crefydd a Chymdeithas: Astudiaethau ar Hanes y Fydd Brotestannaidd yng Nghymru C.1559-1750Crefydd a Chymdeithas: Astudiaethau ar Hanes y Fydd Brotestannaidd yng Nghymru C.1559-1750 (ISBN 0-7083-1950-5)
Casgliad o erthyglau ar ffurf penodau sy'n trafod agweddau ar dwf Protestaniaeth yng Nghymru o tua chanol yr unfed ganrif ar bymtheg hyd at y diwygiad Methodistaidd. Nid gwerslyfr ydyw, ond trafodaethau ar gyflwr yr Eglwys Angicanaidd yng Nghymru, y problemau a wynebodd yr esgobion, agweddau ar dwf Piwritaniaeth, polisi Piwritanaidd, a chefndir y diwygiad Methodistaidd. 
Am fwy o fanylion cliciwch yma

Price:   £25.00 (Excluding: VAT at 17.5%)


Yr Aradr Gymreig (ISBN 0-7083-0583-0)
Yn y gyfrol hon ymdrinir â hanes datblygiad y wedd a'r aradr Gymreig o wyll y cyfnodau cynhanesiol hyd at oes ddiweddar y tractor, gan ddilyn o gam i gam linyn di-dor y traddodiad amaethu oesol. 
Am fwy o fanylion cliwich yma

Pris   £4.99 

Yr Aradr Gymreig


Bywyd a Gwaith yng Nghymru'r Bedwaredd Ganrif ar BymthegBywyd a Gwaith yng Nghymru'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (ISBN 0708306837)
Cyfres Llygad y Ffynnon Cyfrol 11. Amcan cyfres Llygad y Ffynnon yw, yng ngeiriau'r golygydd 'gosod gerbron y darllenydd sylwadau ar ddigwyddiadau a mudiadau yn hanes Cymru gan gynnwys nifer o ddogfennau a fu'n sail i'r casgliadau y daethpwyd iddynt.' 
Am fwy o fanylion cliwich yma

Pris   £1.40 


Cyfaredd y Cysgodion: Delweddu Cymru a’i Phobl ar Ffilm, 1935-1951 (ISBN 0708318339)
Cyflwynir yn y gyfrol arloesol hon – yr astudiaeth gymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol gyntaf o’i bath – hanes y modd y delweddwyd Cymru a’i phobl gan wneuthurwyr ffilm yn ystod cyfnod ffurfiannol ac allweddol bwysig yn hanes y diwydiant. 
Am fwy o fanylion cliciwch yma

Pris:   £7.50 

Cyfaredd y Cysgodion: Delweddu Cymru a’i Phobl ar Ffilm, 1935-1951


Cyfres Llygad y Ffynnon Cyfrol 5Cyfres Llygad y Ffynnon Cyfrol 5 (ISBN 0-7083-0527-X)
Amcan cyfres Llygad y Ffynnon yw, yng ngeiriau'r golygydd 'gosod gerbron y darllenydd sylwadau ar ddigwyddiadau a mudiadau yn hanes Cymru gan gynnwys nifer o ddogfennau a fu'n sail i'r casgliadau y daethpwyd iddynt.' 
Am fwy o fanylion cliwich yma

Price:   £0.60 


Cyfri'r Da: Hanes Canmlwyddol Cymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru (ISBN 070831841X)
Ceir anecdotau difyr, goleuol a chasgliad o hen luniau, sy'n rhoi bywyd i'r llyfr. 
Am fwy o fanylion cliciwch yma

Pris:   £12.50 

Cyfri'r Da: Hanes Canmlwyddol Cymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru


Cymru 2000Cymru 2000 (ISBN 0-7083-1607-7)
Wedi’i seilio ar y gyfres deledu gan Ffilmiau’r Bont i S4C 
Am fwy o fanylion cliciwch yma

Pris:   £14.99 


Cymru ac America (ISBN 0-7083-0316-1)
Ymgais yw'r pamphled hwn i roi syniad i ieuenctid Cymru pa gyfraniad a wnaeth ein cenedl tuag at dwf a datblygiad yr Unol Daleithiau. 
Am fwy o fanylion cliciwch yma

Pris:   £3.99 

Cymru ac America


Cymru Fydd 1886-1896Cymru Fydd 1886-1896 (ISBN 0708319866)
Astudiaeth mewn prosopograffi 1886-1896 
Am fwy o fanylion cliciwch yma

Pris:   £24.00 


Yr Eglwys yng Nghymru (ISBN 0-7083-0090-1)
Yn ei chyfraniad at ein gwybodaeth o Hanes Cymru saif cyfrol wreiddiol yr athro Glanmor Williams ar ei phen ei hun yn ein cyfnod ni. 
Am fwy o fanylion cliciwch yma

Pris:   £14.99 

Yr Eglwys yng Nghymru


Y Gohebydd TramorY Gohebydd Tramor (ISBN 0-7083-1222-5)
Yn y gyfrol hon mae rhai o'n gohebwyr tramor amlycaf yn adrodd yn onest ac yn afaelgar am eu profiadau wrth grwydro'r byd.  
Am fwy o fanylion cliciwch yma

Pris:   £7.99 


Golwg ar Orsedd y Beirdd (ISBN 0-7083-1134-2)
Yn y gyfrol hon cawn gyfle i edrych ar hynt a helynt yr Orsedd wrth i Geraint Bowen adrodd ei hanes yn y ddwy ganrif ers ei sefydlu yn 1792. Yn gyfeiliant i'r testun cawn gnwd da o luniau sy'n olrhain stori'r Orsedd yn ddarluniadol. 
Am fwy o fanylion cliciwch yma

Pris:   £4.99 

Golwg ar Orsedd y Beirdd


Hanes Cerddoriaeth y GorllewinHanes Cerddoriaeth y Gorllewin (ISBN 00-7083-1350-7)

Yn yr argraffiad diwygiedig hwn, ceir triniaeth gronolegol o ddatblygiad cerddoriaeth y Gorllewin o ddyddiau'r Hen Fyd hyd at ail hanner yr ugeinfed ganrif. Law yn llaw â'r naratif hanesyddol, mae enghreifftiau cerddorol niferus, llu o luniau pwrpasol, a dyfyniadau yng ngeiriau'r cerddorion eu hunain.  
Am fwy o fanylion cliwich yma

Pris   £25.00 


Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar 1530-1760  (ISBN 0-7083-0998-4)
Geraint H. Jenkins
tt xi358 adargraffiad clawr papur 1988
Y mae Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar 1530-1760 yn gyfrol sydd yn trafod bywyd cymdeithasol Cymru yn ystod y cyfnod rhwng y Deddfau Uno a'r Chwyldro Diwydiannol. Mewn pedair pennod ar ddeg, cyflwynir ffrwyth yr ymchwil ddiweddaraf i hanes a llenyddiaeth Cymru mewn dull gwreiddiol a darllenadwy. Ymdrinnir â chymdeithas ac economi Cymru fel thema drwy gydol y cyfnod, a rhoddir sylw arbennig i bynciau allweddol megis uno Cymru a Lloegr, twf Protestaniaeth a'r cynnydd mewn addysg a llythrennedd. Gwneir defnydd helaeth o dystiolaeth lenyddol er mwyn caniatáu i ddarllenwyr brofi naws yr oes a deall teithi meddwl eu hynafiaid. Bydd y llyfr hwn, a enillodd wobr Cyngor Celfyddydau Cymru ym 1983, yn gymorth i'r sawl a fyn ddeall cymeriad neilltuol y genedl yn ystod un o'r cyfnodau pwysicaf yn hanes Cymru.
 
Am fwy o fanylion cliwich yma

Pris   £7.50 

Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar 1530-1760


Hanes Cymru yn Oes y TywysogionHanes Cymru yn Oes y Tywysogion (ISBN 0-7083-0838-4)
Ail gyfrol yn y gyfres 'Hanes Cymru' yw'r gyfrol hon. 
Am fwy o fanylion cliwich yma

Pris   £7.99 


Hanes Prydain 1914-1964 (ISBN 0-7083-0972-0)
Geraint Lewis Jones
Cyflwyna’r gyfrol hon amlinelliad o hanes Prydain dros yr hanner ganrif a ddilynodd ddechrau’r Rhyfel Mawr, digwyddiad a fu’n gymaint o drobwynt yn hanes gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd y wlad.  
Am fwy o fanylion cliciwch yma

Pris:   £17.99 

Hanes Prydain 1914-1964


Harri Tudur a ChymruHarri Tudur a Chymru (ISBN 0-7083-0897-X)
Bywgraffiad byr o Harri Tudur, a ddaeth yn Harri VII, yw hwn. 
Am fwy o fanylion cliciwch yma

Pris   £4.99 


Llyfr Poced: Hanes Cymru  (ISBN 0-7083-1255-1)
Cyflwyno hanes Cymru y tu mewn i gloriau un gyfrol hylaw, dyna nod J. Graham Jones yn y llyfr darluniadol hwn. Yn dilyn llwyddiant ei gyfrol Saesneg, cawn yma gyfaddasiad sy'n adeiladu ar gryfderau'r gwaith hwnnw trwy chwanegu at ystod y pynciau a gynhwysir. Yn ogystal â thrafod prif ddigwyddiadau hanes Cymru mewn modd cynhwysfawr a darllenadwy, ceir ynddi helaethrwydd o fywgraffiadau byrion a rhyw bump ar hugain o luniau a mapiau.  
Am fwy o fanylion cliwich yma

Pris   £7.99 

Llyfr Poced: Hanes Cymru


Llywelyn ap GruffuddLlywelyn ap Gruffudd (ISBN 0-7083-0884-8)
 
Am fwy o fanylion cliwich yma

Pris   £15.99 


Llywelyn Ein Llyw Olaf (ISBN 0-7083-0818-X)
 
Am fwy o fanylion cliwich yma

Pris   £4.99 

Llywelyn Ein Llyw Olaf


Radicaliaeth a'r Werin Gymreig yn y Bedwaredd Ganrif ar BymthegRadicaliaeth a'r Werin Gymreig yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (ISBN 0-7083-0673-X)
 
Am fwy o fanylion cliwich yma

Pris   £14.99 


Trobwyntiau yn Hanes Cymru, 1485-1914 (ISBN 0708318436)
Gyda dros 140 o luniau lliw, cartwnau, mapiau, graffiau a ffotograffau, mae Trobwyntiau yn adnodd hanfodol ar gyfer yr ystafell ddosbarth ac yn cwrdd ag anghenion cwricwlwm Hanes Cyfnod Allweddol 3.  
Am fwy o fanylion cliciwch yma

Pris   £6.99 

Trobwyntiau yn Hanes Cymru, 1485-1914


Trobwyntiau yn Hanes Cymru, 1485-1914 (Pecyn Gweithgareddau)Trobwyntiau yn Hanes Cymru, 1485-1914 (Pecyn Gweithgareddau) (ISBN 0708318444)
Gyda dros 140 o luniau lliw, cartwnau, mapiau, graffiau a ffotograffau, mae Trobwyntiau yn adnodd hanfodol ar gyfer yr ystafell ddosbarth ac yn cwrdd ag anghenion cwricwlwm Hanes Cyfnod Allweddol 3.  
Am fwy o fanylion cliciwch yma

Pris   £5.00 (Excluding: VAT at 17.5%)


William Owen Pughe (ISBN 0-7083-0837-6)
Geiriadurwr, ieithydd, hynafiaethydd a rhyw lun o fardd: trodd William Owen Pughe ei law at bopeth ac fe drafodir pob agwedd o'i waith yn y llyfr hwn. 
Am fwy o fanylion cliwich yma

Pris   £25.00 

William Owen Pughe


William SalesburyWilliam Salesbury (ISBN 0-7083-0328-5)
Amcan y llyfryn hwn yw dathlu pedwar canmlwyddiant y Testament Newydd Cymraeg cyntaf. 
Am fwy o fanylion cliwich yma

Pris   £0.90 


Yr Ymgiprys am y Gogledd (ISBN 0-7083-0900-3)
 
Am fwy o fanylion cliwich yma

Pris   £5.99 

Yr Ymgiprys am y Gogledd


Yr Arglwydd Rhys Yr Arglwydd Rhys  (ISBN 0-7083-1349-3)
Dyma'r gyfrol gyntaf i'w chyhoeddi ar un o dywysogion mwyaf adnabyddus a dylanwadol Cymru'r Oesoedd Canol.  
Am fwy o fanylion cliciwch yma

Pris   £12.99 


Up Catalog Search View Cart Checkout Send Mail Login