| | |
 | Crefft y Cyfarwydd (ISBN 0-7083-1319-1 ) Astudiaeth o Dechnegau Naratif yn y "Mabinogion" Sioned Davies tt x261 Mawrth 1996 clawr papur Astudiaeth fanwl o ddylanwad y traddodiad llafar ar chwedlau ysgrifenedig Cymraeg yr Oesoedd Canol. Dyma gyfrol sydd yn cynnig astudiaeth fanwl o grefft y storiwr canoloesol (y cyfarwydd), a dylanwad y grefft honno ar y corpws o chwedlau a adwaenir fel Y Mabinogion. Crynhoir yr hyn a wyddom am y cyfarwydd canoloesol a'i chwedlau mewn pennod ragarweiniol, a chyflwynir y darllenydd i'r ymchwil ryngwladol ddiweddaraf ar lafaredd (orality) a llythrennedd (literacy). Yna, manylir ar y testunau eu hunain; disgrifir a dadansoddir yn drylwyr adeiladwaith y chwedlau, fformiwlau (a ddefnyddir, er enghraifft, wrth agor a chloi chwedl, ac wrth ddisgrifio pobl) a'r defnydd o ymddiddan. Er mai chwedlau llenyddol, ysgrifenedig yw'r Mabinogion, dadleuir mai i'w darllen yn uchel y bwriadwyd hwy, a cheir olion clir o hynny yn y testunau. Defnyddir tystiolaeth lafar Gymraeg gyfoes trwy gyfrwng tapiau o archif Amgueddfa Werin Sain Ffagan, ynghyd â thystiolaeth gymharol (lafar ac ysgrifenedig). Ym fwy o fanylion cliciwch yma
Price: £17.99 |
| |
|
Hywel ab Owain Gwynedd: Bardd-Dywysog (ISBN 978-0-7083-2162-1) Dyma'r gyfrol gyntaf erioed i ganolbwyntio ar Hywel ab Owain Gwynedd, y bardd serch a'r tywysog a ysbrydolodd feirdd a llenorion, gan gynnwys Goronwy Owen, Iolo Morganwg a T. Gwynn Jones, ac a laddwyd yn anterth ei nerth gan ei hanner brawd Dafydd mewn brwydr ym Mhentraeth, Môn, yn 1170. Ynddi y mae rhai o brif ysgolheigion llenyddiaeth a hanes Cymru yr oesoedd canol yn archwilio gwahanol agweddau ar fywyd Hywel, y cerddi a dadogir arno a'r dylanwad a gafodd ar y beirdd a'i dilynodd, gan godi nifer o gwestiynau cyffrous. Am fwy o fanylion cliciwch yma
Price: £17.99 |  |
| |
|
 | Cyfoeth y testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol (ISBN 0708318274) Yn y gyfrol deyrnged hon ir Athro J. E. Caerwyn Williams ceir casgliad o ysgrifau amrywiol ar destunau Cymraeg yr Oesoedd Canol, yn farddoniaeth ac yn rhyddiaith chwedlonol, wedi eu cyfrannu gan rai o arbenigwyr amlycaf y maes. Am fwy o fanylion cliciwch yma
pris £55.00 |
| |
|
Ystoryeau Seint Greal Cyfrol I (ISBN 0-7083-1102-4) RHAN 1: Y KEIS Golygwyd gan Thomas Jones Allan o stoc, ond fe'i hadargraffu ar alw pe bai digonedd o alw. I gofrestri'ch diddordeb cysyllter ag archebion@gwasg.cymru.ac.uk Am fwy o fanylion cliciwch yma
Pris: £25.00 |  |
| |
|
 | Ymborth yr Eneit (ISBN 0-7083-1283-7 ) Gyda rhagymadrodd a nodiadau gan R. Iestyn Daniel tt cix155 1995 clawr caled Traethawd Cymraeg Canol gwreiddiol o'r drydedd ganrif ar ddeg ar y bywyd ysbrydol gan gyfrinydd o fardd o urdd y Dominicaniaid a'i uchafbwynt yn ddisgrifiad ysblennydd o weledigaeth a gafodd o'r bachgen Iesu yn ddeuddeg oed. Nid gormod yw dweud mai Ymborth yr Enaid yw un o destunau Cymraeg mwyaf arwyddocaol a phwysig yr holl Gyfnod Canol. ` . . . yn gyforiog o wybodaeth werthfawr . . . ' (Cristion) Am fwy o fanylion cliciwch yma
Price: £25.00 |
| |
|
Y Drych Kristnogawl (ISBN 0-7083-1279-9 ) Golygwyd gyda rhagymadrodd gan Geraint Bowen!! tt xlviii322 1996 clawr caled Mae'r Drych Kristnogawl yn un o weithiau Cymraeg pwysicaf reciwsantiaid oes Elisabeth. Traethawd cynhwysfawr ydyw yn ymwneud â dysgeidiaeth Eglwys Rufain ar y pedwar peth y mae dyn yn gorfod eu hwynebu ar ddiwedd oes, De Quatuor Hominis Novissimis, sef Angau, Dydd y Farn, Uffern a Nef. Am fwy o fanylion cliciwch yma
Price: £35.00 |  |
| |
|
 | Breudwyt Ronabwy (ISBN 0-7083-1701-4) Testun chwedl Cymraeg Canol allan o Lyfr Coch Hergest, gyda nodiadau a rhagymadrodd. Am fwy o fanylion cliciwch yma
Pris: £9.99 |
| |
|
Brut Dingestow (ISBN 0708306675) Adargraffiad o gyfieithiad Cymraeg Canol o Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy ynghyd â rhagymadrodd a nodiadau. Am fwy o fanylion cliciwch yma
Price: £25.00 |  |
| |
|
 | Buchedd Dewi (ISBN 0708307051) Testun hwylus a hylaw o'r fersiwn Cymraeg o Fuchedd Dewi. Yn y Rhagymadrodd crynhoir yr hyn a wyddys am hanes Dewi ei hun ac am Rhigyfarch, awdur y Fuchedd, a cheir nodiadau manwl ynghyd â geirfa helaeth. Am fwy o fanylion cliciwch yma
Price: £6.99 |
| |
|
Canhwyll Marchogyon: Cyd-destunoli Peredur (ISBN 0-7083-1639-5) Golygwyd gan Sioned Davies a Peter Wynn Thomas Bydd yr astudiaethau yn y gyfrol ryng-ddisgyblaethol hon yn ysgogi edrych o'r newydd nid yn unig ar Peredur ei hunan ond hefyd ar y Mabinogion yn gyffredinol. Cliciwch yma am fanylion pellach
Pris: £16.99 |  |
| |
|
 | Culhwch ac Olwen (ISBN 0-7083-1347-7 ) Golygwyd gan Rachel Bromwich a D. Simon Evans ciii216 tt 1997 clawr papur Mae'n debyg mai Culhwch ac Olwen yw'r fwyaf cyntefig a'r hynaf o'r chwedlau a gynhwysir yng nghasgliad y 'Mabinogion' a gadwyd yn Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest. Mae'n chwedl hynod o ddiddorol o safbwynt teithi iaith, a cheir ynddi hefyd restrau o enwau diddorol a disgrifiadau trawiadol. Ar ben hynny, mae Culhwch ac Olwen yn chwedl bwysig ym maes astudiaethau llên gwerin a dechreuad y chwedl Arthuraidd. Gwelir ynddi fotiffau amlwg chwedlau rhyngwladol, megis Merch y Cawr a'r Llysfam Eiddigeddus. Am fwy o fanylion cliciwch yma
Price: £16.99 |
| |
|
Culhwch ac Olwen (ISBN 0-7083-1006-0) Cyfaddasiad newydd gan Gwyn Thomas. Darluniwyd gan Margaret Jones tt 64 adargraffiad clawr papur 1996 `Y mae arddull fywiog a chyfoes y testun yn gweddu i'r dim i natur afiaethus yr hen chwedl draddodiadol. Brithir y gyfol a lluniau godidog Margaret Jones. Dyma gyfraniad sy'n dod â'r stori yn fyw gerbron ein llygaid ni; a fydd yn sicrhau y bydd y gyfrol yn apelio at bobl o bob oedran. . .' (Y Cymro) Am fwy o fanylion cliciwch yma
Price: £8.99 |  |
| |
|
 | Cyfreithiau Hywel Dda yn ôl Llawysgrif Coleg yr Iesu LVII (ISBN 0-7083-1056-7 ) YN ÔL LLAWYSGRIF COLEG YR IESU LVII Copïwyd a golygwyd gan Melville Richards tt 170 1990 clawr caled Ceir yn y gyfrol hon argraffiad newydd o lawysgrif bwysig o Gyfraith Hywel. Golygwyd yr argraffiad cyntaf gan y diweddar Melville Richards, a'i olygiad ef yw cnewyllyn yr argraffiad newydd, ond manteisiwyd ar y cyfle i ychwanegu defnyddiau cynorthwyol yng ngoleuni gwaith a wnaed wedi 1957. Yn yr argraffiad hwn ceir felly Ragymadrodd, Mynegeion, a Chonsbectws yn dangos perthynas y testun hwn â thestunau print eraill. Paratowyd yr argraffiad newydd gan aelodau o'r Seminar sy'n cyfarfod ers blynyddoedd bellach i drafod Cyfraith Hywel yn ei hamrywiol agweddau. Mae i'r llawysgrif arbennig hon bwysigrwydd o lawer cyfeiriad. Copwyd hi gan un o'r rhai a sgrifennodd Lyfr Coch Hergest, a hynny yn ôl pob tebyg ar gyfer y noddwr mawr Hopcyn ap Tomas. Y llawysgrif hon, efallai, yw'r fwyaf cynhwysfawr o lawysgrifau ei chyfnod, tua 1400: gyda ffurf ar Ddull Blegywryd yn sail, codwyd iddi lawer o gynnwys Dull Iorwerth ac o ddeunydd arall megis Llyfr y Damweiniau.
Pris: £25.00 |
| |
|
Chwedlau Cymraeg Canol (ISBN 0-7083-0721-3) Detholiad o destunau sy'n rhoi syniad cymesur o ryddiaith Gymraeg y Cyfnod Canol, ac yn cynnwys ymhlith eraill ddetholiadau o'r Pedair Cainc, Culhwch ac Olwen, y Chwedlau Arthuraidd, Brut y Brenhinoedd, a'r storïau am Siarlymaen a'i w[]r. `. . .lyfr hynod o dderbyniol a defnyddiol, ac yn ateb ei bwrpas i'r dim . . .' (Yr Athro) Am fwy o fanylion cliciwch yma
Price: £9.99 |  |
| |
|
 | Y Forwyn Fair (ISBN 0-7083-1514-3 ) Agweddau ar Wyryfdod a Diweirdeb yng Nghymru'r Oesoedd Canol Jane Cartwright xi219 tt Demy 8vo Mawrth 1999 clawr papur Dyma gyfrol arloesol sy'n cymryd cam bras tuag at wneud dros ysgolheictod Cymru yr hyn a wnaed ers tro yn Lloegr ac amryw o wledydd Ewrop, sef rhoi sylw teilwng i hanes merched yr Oesoedd Canol, a hynny am y tro cyntaf yn y Gymraeg. Yn y gyfrol herfeiddiol hon, archwilia Jane Cartwright gwlt y Forwyn Fair a'r santesau yng Nghymru a hanes yr ychydig leiandai Cymreig. Llwydda yn ei hastudiaeth i gyflwyno agweddau ar hanes cymdeithasol, crefyddol, llenyddol a chelfyddydol Cymru'r Oesoedd Canol mewn modd ffres a darllenadwy. Am fwy o fanylion cliciwch yma
Price: £16.99 |
| |
|
Gwassanaeth Meir (ISBN 0-7083-0289-0) Cyfieithiad Cymraeg Canol o'r Officium Parvum Beatae Mariae Virginis, gyda rhagymadrodd, nodiadau a geirfa.
Am fwy o fanylion cliciwch yma
Price: £9.99 |  |
| |
|
 | Hen Gerddi Crefyddol (ISBN 0-7083-0542-3) Golygwyd gan Henry Lewis Detholiad o awdlau crefyddol o'r hen gyfnod hyd at tua diwedd y drydedd ganrif ar ddeg, ynghyd â rhagymadrodd a nodiadau ar y testun. Am fwy o fanylion cliciwch yma
Price: £8.99 |
| |
|
Historia Gruffud vab Kenan (ISBN 0-7083-0600-4) D. Simon Evans tt ccciii148 1978 clawr caled Un o destunau rhyddiaith pwysig y cyfnod canol ynghyd â rhagymadrodd a nodiadau. Ceisir rhoi sylw yn fras i hanes y cyfnod ac arwyddocâd yr Historia ynddo. Trafodir perthynas y Cymru â'u cymdogion, y ffynonellau Cymreig ac estron, achau, cynnwys a diben y gwaith, y llawysgrifau a'r iaith.
Am fwy o fanylion cliciwch yma
Price: £19.99 |  |
| |
|
 | Historia Peredur vab Efrawc (ISBN 0-7083-0440-0) Golygwyd gan Glenys Witchard Goetinck tt xxiv 190 1976 Testun Peniarth 4 o un o chwedlau pwysicaf llenyddiaeth ganoloesol Gymraeg, wedi ei olygu gyda rhagymadrodd, nodiadau testunol a geirfa. Am fwy o fanylion cliciwch yma
Price: £7.99 |
| |
|
Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (ISBN 0-7083-0751-5) Gyda Rhagymadrodd a Nodiadau gan Patricia Williams tt xxxvii84 1982 clawr caled `Bydd hwn yn llawlyfr hynod ddefnyddiol i fyfyrwyr sy'n dechrau astudio Cymraeg Canol, gan y bydd yn darparu ar eu cyfer olygiad manwl ac eglur o destun difyr a fydd yn gyflwyniad da i iaith ac arddull draddodiadol rhyddiaith Gymraeg Canol. Rhaid croesawu'r gyfrol yn galonnog. . .' (Llais Llyfrau) Am fwy o fanylion cliciwch yma
Price: £15.99 |  |
| |
|
 | Llyfr Gwyn Rhydderch: Y Chwedlau a'r Rhamantau (ISBN 0-7083-0523-7) Golygwyd gan J. Gwenogvryn Evans gyda rhagymadrodd gan R. M. Jones tt 312 Adargraffiad 1977 £allan o stoc Yn Llyfr Gwyn Rhydderch gwelwn ryddiaith Gymraeg ar ei haeddfetaf a'i mireiniaf, a'r chwedlau hyn yw'r gweithiau mwyaf adnabyddus a mwyaf dylanwadol a gynhyrchwyd yng Nghymru. Am fwy o fanylion cliciwch yma
Price: £25.00 |
| |
|
Pedeir Keinc y Mabinogi (ISBN 0-7083-1407-4) allan o stoc Cytunir yn gyffredinol mai'r Mabinogi yw prif gyfraniad y Gymraeg i lenyddiaeth Ewrop. Un o gymwynasau mwyaf Ifor Williams i ddiwylliant Cymraeg, felly, fu paratoi'r golygiad safonol hwn o'r pedair chwedl frodorol, sef 'Pwyll Pendefig Dyfed', 'Branwen ferch Ll^yr', 'Manawydan fab Ll^yr' a 'Math fab Mathonwy'. Cyhoeddwyd Pedeir Keinc y Mabinogi gyntaf yn 1930; y mae bellach yn glasur a hwn yw'r argraffiad clawr meddal cyntaf ohono. Ceir ynddo destun y hwedlau wedi'i olygu, nodiadau esboniadol, geirfa a rhagymadrodd cynhwysfawr yn trafod cefndir a strwythur y Pedair Cainc a'r llawysgrifau perthnasol. Am fwy o fanylion cliciwch yma
Price: £10.99 |  |
| |
|
 | Llawysgrif Hendregadredd (ISBN 0-7083-0251-3) Golygwyd gan Syr John Morris-Jones a Syr Thomas Parry-Williams tt xiv 367 Adargraffwyd 1978 Barddoniaeth y Gogynfeirdd wedi eu copïo o lawysgrif Hendregadredd a'u golygu.
Price: £14.99 |
| |
|
Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (ISBN 0-7083-1534-8) Llythyr y Preutur Siôn
Golygwyd gan Gwilym Lloyd Edwards Dymar ymdriniaeth gynhwysfawr gyntaf yn Gymraeg ag un o ddogfennau hynotaf a mwyaf poblogaidd yr Oesoedd Canol llythyr honedig y Preutur Siôn (Prester John) at Manuel, ymherodr Caergystennin. Am fwy o fanylion cliciwch yma
Pris: £29.99 |  |
| |
|
 | Ymborth yr Eneit (ISBN 0-7083-1283-7 ) Gyda rhagymadrodd a nodiadau gan R. Iestyn Daniel tt cix155 1995 clawr caled Traethawd Cymraeg Canol gwreiddiol o'r drydedd ganrif ar ddeg ar y bywyd ysbrydol gan gyfrinydd o fardd o urdd y Dominicaniaid a'i uchafbwynt yn ddisgrifiad ysblennydd o weledigaeth a gafodd o'r bachgen Iesu yn ddeuddeg oed. Nid gormod yw dweud mai Ymborth yr Enaid yw un o destunau Cymraeg mwyaf arwyddocaol a phwysig yr holl Gyfnod Canol. ` . . . yn gyforiog o wybodaeth werthfawr . . . ' (Cristion) Am fwy o fanylion cliciwch yma
Price: £25.00 |
| |