Efrydiau Athronyddol

Golygwyd gan Yr Athro Howard Williams (Prifysgol Cymru, Aberystwyth), Walford Gealy (Prifysgol Cymru, Aberystwyth) a Gwynn Matthews (Prifysgol Cymru, Bangor)

‘Mae Efrydiau Athronyddol yn gyhoeddiad diedifar o ddeallus a deallusol ac mae ei fodolaeth yn brawf digamsyniol bod yna rai ar ôl yn ein plith sydd mor ’styfnig ac afresymol â chredu fod y Gymraeg yn parhau’n iaith Dysg a Gwareiddiad. Bendith arnynt!’ Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru

Efrydiau Athronyddol ar lein Catchword/Ingenta

Cyfrol 69 (2006)

Cyfrol 68 (2005)
Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg

Hon yw’r bumed gyfrol yn y gyfres arbennig o’r Efrydiau. Ers 2001, cyhoeddwyd cyfrolau ar Athroniaeth y Groegiaid, O’r Oes Glasurol hyd at yr Oesoedd Canol, Yr Ail Ganrif ar Bymtheg ac Athronwyr yr Ymoleuad. Eleni trafodir prif athronwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef Kant, Hegel, Feuerbach, Mill, Kierkegaard, Marx a Nietzsche – meddylwyr y mae llawer o’u syniadau yn dal i fod yn her uniongyrchol i’n hoes ni. Bydd dau rifyn olaf y gyfres yn trafod yn eu tro rai o brif athronwyr yr ugeinfed ganrif a datblygiadau diweddar mewn nifer o feysydd athronyddol. Y bwriad yw cynhyrchu cywaith a fydd yn gyflwyniad defnyddiol, cynhwysfawr a deniadol i athroniaeth y Gorllewin, ac a fydd trwy hynny’n addurn i’r diwylliant Cymraeg.

Cyfrol 67 (2004)

Hon yw’r bedwaredd gyfrol yn y gyfres arbennig o’r Efrydiau. Ers 2001, cyhoeddwyd cyfrolau ar Athroniaeth y Groegiaid, O’r Oes Glasurol hyd at yr Oesoedd Canol ac Yr Ail Ganrif ar Bymtheg. Eleni trafodir athronwyr yr Ymoleuad, ac yn y blynyddoedd sydd i ddod disgwylir cyhoeddi cyfrolau’n trafod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r cyfnod modern. Y bwriad yw cynhyrchu cywaith a fydd yn gyflwyniad defnyddiol, cynhwysfawr a deniadol i athroniaeth y Gorllewin, ac a fydd trwy hynny’n addurn i’r diwylliant Cymraeg.

Rhagymadrodd
1. John Locke (1632-1704) D. Z. Phillips
2. George Berkeley David Berman
3. David Hume Meredydd Evans
4. Thomas Reid Meredydd Evans
5. Jean-Jaques Rousseau John Daniel
6. Richard Price E. Gwynn Matthews.

Cyfrol 66 (2003)

book cover Rhagymadrodd
1. BREUDDWYD DESCARTES: METHOD A METAFFISEG Caryl Davies
2. ATHRONIAETH WLEIDYDDOL HOBBES A LOCKE E. Gwynn Matthews
3. PLATONWYR CAERGRAWNT Neil Fairlamb
4. SPINOZA David Cockburn
5. LEIBNIZ Bernhard Weiss

Cyfrol 65 (2002)

book cover Rhagymadrodd
1. Marcus Tullius Cicero: Y Prif Dda a’r Weriniaeth Howard Williams
2. Tua’r Oesoedd Canol: Neo-Blatoniaeth, Awstin, Boethius Ceri Davies
3. Athroniaeth ym Myd Islâm ac Iddewiaeth Malcolm Lowe
4. Nominaliaeth yn yr Oesoedd Canol Thomas O’Loughlin
5. Tomos Acwin Brian Davies

Cyfrol 64 (2001)

book cover Y mae’r gyfrol hon yn ddechreuad menter newydd. Dros y chwe blynedd nesaf yn rhifynnau Efrydiau Athronyddol, olrheinir gwahanol gyfnodau yn hanes athroniaeth. Dechreuir eleni â’r Groegiaid, a disgwylir cyhoeddi rhwng 2002 a 2006 gyfrolau yn trafod y cyfnodau eraill, sef yr Oesoedd Canol o Awstin at y Nominalwyr, y Dadeni Dysg a’r Rhesymolwyr, y Ddeunawfed Ganrif, y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, a’r Cyfnod Modern. Y bwriad yw cynhyrchu cywaith a fydd yn gyflwyniad defnyddiol, cynhwysfawr a deniadol i hanes athroniaeth y Gorllewin, ac a fydd trwy hynny’n addurn i’r diwylliant Cymraeg.

Wrth ystyried Athroniaeth y Groegiaid, ceir yn rhifyn eleni erthyglau’n trafod y Cyn-Socratiaid, Socrates, Platon, Aristoteles a’r athronwyr Helenistaidd.

Cynnwys
Rhagymadrodd
Rhestr o Fapiau
1. Y Cyn-Socratiaid Dewi Z. Phillips
2. Socrates W. L. Gealy
3. Platon John Daniel
4. Aristoteles John FitzGerald
5. Yr Athronwyr Helenistaidd John Ellis Jones

CYFROL LXI (1998)
Problemau dynol mewn llenyddiaeth Gymraeg

ISSN 0142-3371

Cynnwys

Cyfrol LXII (1999)

'Iaith, Crefydd a Moeseg: Athroniaeth Rush Rhees' (Rush Rhees (1905-1989))

Cynnwys:

Cyfrol LXIII (2000)

Hunaniaeth a Gwladgarwch
1. Darlith Goffa R. I. Aaron
RICHARD PRICE AR GARU EIN GWLAD
E. Gwynn Matthews
2. HUNANIAETH DDEUOL YNG NGHYMRU: RHAI GWERSI O’R GORFFENNOL
Rhys Jones
3. Darlith Goffa H. D. Lewis
CYFRANIAD HOWELL HARRIS I FYWYD CYMRU
Geraint Tudur
4. SYNIADAETH WLEIDYDDOL GWYNFOR EVANS
Richard Wyn Jones
5. CREFYDD A DEMOCRATIAETH
Malcolm Lowe
6. Y Ddarlith Gymraeg
MWY NA DARN O DIR? CYMRU A CHYMREICTOD YN NOFELAU EMYR HUMPHREYS
Lowri Davies
7. ADOLYGIADAU
Meirlys Lewis, Alun Gwynedd Jones