'Gwelodd Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru yn dda i gyhoeddi gwerslyfrau ar hanes Cymru ar batrwm a ddaeth yn gyfarwydd iawn i efrydwyr hanes Ewrop ac America, ac mae'n sicr y mae'n fenter i'w chroesawu. Amcan cyfres Llygad y Ffynnon yw, yng ngeiriau'r golygydd 'gosod gerbron y darllenydd sylwadau ar ddigwyddiadau a mudiadau yn hanes Cymru gan gynnwys nifer o ddogfennau a fu'n sail i'r casgliadau y daethpwyd iddynt.'
Welsh History Review, Marian Henry Jones
'Gyda chymorth 94 o ddogfennau, cawn fwrw golwg ar amodau gwaith ac arferion cymdeithasol Cymry'r ganrif diwethaf. Ymhlith pethau eraill, cyfeirir at y 'Truck System' ac at yr arfer o godi tai unnos, at afiechydon peryglus megis y colera ac at y driniaeth y gellid ei ddisgwyl mewn tloty.'
Dyfyniad o 'Llais Llyfrau'