Rhagymadroddion a Chyflwyniadau Lladin 1551-1632

Ceri Davies

196 tt 1980 clawr caled ISBN 0-7083-0734-5

Hyd at ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg yr iaith Ladin ydoedd iaith gydwladol dysg yn Ewrop. Yn y gyfrol hon ceir cyfieithiadau o'r deunydd rhagymadroddol Lladin mwyaf pwysig a ymddangosodd rhwng 1551 a 1632 o waith ysgolheigion o Gymry- dynion megis William Salesbury, John Prys, Siôn Dafydd Rhys, David Powell, William Morgan a John Davies. Fe'u gwelir yn eu rhagymadroddion a'u cyflwyniadau a'u llythyrrau annerch yn codi cwr y llen ar eu personoliaethau a hefyd yn egluro'n ddysgedig eu hamcanion wrth ysgrifennu eu gweithiau. Ceir rhagymadrodd cynhwysfawr i'r casglaid, ynghyd â nodiadau ar y testunau.

Y mae Ceri Davies yn Ddarlithydd yn y Clasuron yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd.