DRYCH YR OESOEDD CANOL

Golygwyd gan Nesta Lloyd a Morfydd E. Owen

tt lxiii276 1986 clawr caled

Meddai y golygyddion yn eu Rhagair i'r llyfr swmpus hwn `fod mawr angen am gyfrol a roddai i fyfyrwyr . . . ddarlun o gefndir diwylliannol bywyd Cymro yn ystod yr Oesoedd Canol'.

`Cyflawnwyd y gamp yn raenus ac yn drylwyr gan ddwy olygyddes o'r radd flaenaf. Fel awdur y Drych arall hwnnw, maent wedi cyflwyno i ni rai o "drysorau cuddiedig" y genedl `a ddichlynwyd gyda chryn lafur a phoen allan o hen sgrifennadau wedi llwydo gan oedran.' (Llais Llyfrau)

`Y mae'r Drych yn haeddu croeso felly nid yn unig fel casgliad campus o ffynnonellau llenyddol ond hefyd fel cyfeirlyfr gwerthfawr i amryfal weddau ar y Gymru ganoloesol. Caiff haneswyr yn sicr fudd a phleser o'i ddarllen; ac mae ei bris yn hynod resymol.' (Cylchgrawn Hanes Cymru)

0-7083-0901-1