William Morgan a'i Feibl

Issac Thomas

89 tt 1988 clawr papur ISBN 0-7083-0982-8

Dyma gyfrol a anelir yn bennaf at fyfyrwyr ysgol a choleg, er y bydd hefyd o ddiddordeb i bawb sy'n ymhel ag astudiaethau beiblaidd neu â hanes a llên Cymru. Olrheinir prif gamau gyrfa William Morgan o gefn gwlad Penmacho hyd at ei benodi yn Esgob Llanelwy. Ond canolbwynt y llyfr yw camp Morgan wrth gyfieithu'r Beibl cyfan i'r Gymraeg am y tro cyntaf, camp y dangosir ei natur a'i maint yn ei chefndir Cymraeg ac Ewropaidd. Ceir hefyd wybodaeth newydd yngly^n â 'hanes mewnol' y cyfieithu: defnydd beirniadol Morgan o gyfieithiadau cynharach o'r Groeg a'r Hebraeg i amryw ieithoedd; ei ymlyniad wrth ei syniadau ei hun am dechneg cyfieithu'r Ysgrythurau; a'i orchest wrth iddo ddyrchafu'r Gymraeg "yn un o dafodieithoedd Datguddiad Duw"