Gloywi Iaith Cyfrol II

86 tt 1989 clawr papur ISBN 0-7083-0993-3

Mae'r gyfrol hon yn un o dair cyfrol ymarferol i fyfyrwyr ysgol, coleg, a phrifysgol yn ogystal ag i bawb diwylliedig sydd am loywi'u hiaith. Rhoddir pwyslais ar hyfforddi defnyddio'r iaith lenyddol, ond cyflwynir hefyd gyweiriau eraill yn yr iaith lenyddol. Darperir ymarferion defnyddiol mewn orgraff, treigliadau, cywiro iaith, priod-ddulliau, arddull, atalnodi, cyfieithu, ac yn y blaen. Dyma'r unig lyfrau ar y lefel uchaf sydd ar gael i brofi'r iaith lenyddol ynghylch mān bwyntiau y mae llawer yn esgeulus yn eu cylch. Dylid defnyddio'r llyfrau hyn mewn dosbarth ac o dan arolygaeth athro.