Bu cyhoeddi gramadeg Cymraeg Syr John Morris-Jones (1913) a gramadeg Celteg Holger Pedrsen (1909,1913) yn gefn deuddwr yn hanes astudio'r iaith Gymraeg. Ar ôl eu cyhoeddi hwy, yr oedd rhaid i bawb fabwysiadu'r dulliau gwyddonol newydd ac nid yw'n syndod fod corff yr astudiaethau y mae'r llyfryddiaeth hon yn fynegai iddynt, wedi ei sgrifennu'n ddiweddarach. Dangosodd Morris-Jones ac yn arbennig Pedrsen na ellid astudio'r Gymraeg yn iawn heb astudio'i chwaerieithoedd Celtaidd. Dyna'r rheswm y cynhwyswyd yma gyfeiriadau at astudiaethau dethol o'r Llydaweg, etc. Ond digwyddodd y chwyldro nid yn unig drwy astudio'r iaith eithr hefyd drwy astudio'i llên, ac felly ni ellid hepgor cyfeiriadau at olygiadau safonol o weithiau llenyddol. Heblaw hynny, daeth newid i'n syniadau am berthynas iaith â chymdeithas, a dyfnhawyd ein dealldwriaeth o'r hyn sy'n digwydd pan fo dwy iaith yn cystadlu â'i gilydd, fel na ellir bellach beidio â chyfeirio at astudiaethau ar ddwyieithrwydd a chadwraeth yr iaith. Y mae agweddau eraill i astudio'r Gymraeg y bu rhaid cyfeirio atynt yma, ond prin y mae angen eu henwi wrth y sawl y bwriadwyd y llyfryddiaeth hon ar ei gyfer. Afraid dweud mai'r nod wrth ei chynllunio oedd ei gwenud mor anhepgor i'r efrydydd â Llyfryddiaeth Llenyddiaeth Gymraeg (1976).