Pan fu farw'r diweddar Athro Thomas Jones yr oedd wrthi'n brysur yn gorffen ei olygiad o ran gyntaf Ystoryaeu Seint Greal. Yr oedd ei olygiad o'r testun sydd yn Llsgr. Peniarth 11 a'i restr o ddarlleniadau amrywiol testun Llsgr. NLW 3063 eisoes wedi eu hargraffu ac yr oedd wedi ysgrifennu nodiadau helaeth iawn yn egluro iaith y cyfieithiad ac yn dangos lle y gwahaniaethai oddi wrth y gwreiddiol, etc. Gorffennwyd y gwaith gan dÎm o ysgolheigion blaengar sef Miss Morfydd Owen, Dr Ceridwen Lloyd-Morgan a Mr Daniel Huws dan arweiniad Yr Athro Emeritws J.E. Caerwyn Williams.
Nid y teitl gwreiddiol yw Y Seint Greal. Nid oes teitl fel y cyfryw ar destun Peniarth 11, a pherthyn i ail hanner y 16g y mae'r rhwymiad presennol sydd yn dwyn y teitl hwnnw ar y meingefn. Mae `ystoryaeu seint greal' yn gywirach disgrifiad na'r teitl presennol felly, ond fel Y Seint Greal y cyfeiriwyd at y testun ers pedair canrif bellach. Testun rhan gyntaf Y Seint Greal, wedi ei gyfieithu o'r Queste del Saint Graal a gyflwynir yn y gyfrol hon. Un o gyfres o ramantau Arthuraidd Ffrangeg yw'r Queste del Saint Graal, sef cyfres y Vulgate Cycle. Erbyn troad y ganrif datblygasai'r greal yn un o themâu canolog, os nad yn thema bwysicaf un y rhamantau Arthuraidd yn yr iaith Ffrangeg. Tua'r un cyfnod gwelir symudiad o'r hen draddodiad o gyfansoddi testunau naratif ar fesur ac odl i gyfansoddi mewn rhyddiaith. I'r genhedlaeth gyntaf o ramantau rhyddiaith y perthyn y Queste del Saint Graal a rhamantau eraill y Vulgate Cycle, ac yma hefyd gwelir tuedd bwysig arall, nodweddiadol o'r cyfnod, sef ceisio sefydlu hanes cyflawn llys Arthur a'r greal.