Yn 1833, pan sefydlwyd yr enwocaf o Gymdeithasau Cymreigyddion y Fenni roedd yr arwyddair- Oes y Byd i'r Iaith Gymraeg- fel pe bai'n adlewyrchu bwrlwm y bywyd diwylliannol a hyder Cymry'r ardal ym mharhad eu hiaith. Eto i gyd, erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif roedd rhannau helaeth o orllewin Gwent wedi'u Seisnigeiddio'n llwyr.
Yn y gyfrol hon rhoddir dadansoddiad o safle'r iaith Gymraeg yn y gymdeithas yn ardal ddiwydiannol yr hen Sir Fynwy yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dangosir bod y mewnfudo a'r ymfudo parhaus yn ganolog i'r broses o golli'r Gymraeg a rhoddir ystyriaeth hefyd i le'r iaith mewn addysg, crefydd a gwleidyddiaeth ac yn llenyddiaeth a diwylliant poblogaidd y cyfnod. Bydd y gyfrol o ddiddordeb i'r sawl sy'n astudio cymdeithasau dwyieithog mewn cyfnodau eraill hefyd. Yn wir mae'r hanes hwn yn berthnasol i Gymru gyfan erbyn hyn wrth i'r Gymraeg wynebu dirywiad pellach yn ystod blynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif.
Ganed Sian Rhiannon Williams yn Rhymni, Sir Fynwy yn 1955, a mynachodd ysgol Gymraeg y dref; ysgol a sefydlwyd yn yr un flwyddyn. Cafodd ei haddysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, Pontypridd cyn astudio hanes yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ôl graddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf trwy gyfrwng y Gymraeg, gweithiodd dan gyfarwyddyd yr Athro Ieuan Gywnedd Jones yn Adran Hanes Cymru'r coleg ar draethawd ymchwil ar hanes cymdeithasol y Gymraeg yng nghorllewin Sir Fynwy yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan ennill ei doethuriaeth yn 1985. Dychwelodd i Ysgol Gyfun Rhydfelen am gyfnod cyn gweithio fel cynhyrchydd rhaglenni radio i ysgolion yn Adran Addysg BBC Cymru rhwng 1983 a 1991 pan symudodd i'w swydd bresennol fel uwch ddarlithydd yn Adran Hanes y Gyfadran Addysg yn Athrofa Addysg Uwch Caerdydd. Cyhoeddodd nifer o ysgrifau ar faes ei hastudiaeth ynghyd ag erthyglau yn ymdrin â chylchgronnau merched y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac argyfwng Cyfraith y Tlawd ym Medwellte yn 1927. Mae'n briod â'r cerddor Euros Rhys Evans ac mae ganddynt un ferch, Elen.