Llyfryddiaeth Llenyddiaeth Gymraeg

Cyfrol 2 1976-1986

Gareth O. Watts

xx286 tt 1993 clawr caled ISBN 0-7083-1161-X

Yn 1976 cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf o Lyfryddiaeth Llenyddiaeth Gymraeg, cyfrol a olygwyd gan Thomas Parry a Merfyn Morgan. Cymar i'r gyfrol honno yw'r gyfrol bresennol. Cofnodwyd ynddi yr astudiaethau a gyhoeddodd rhwng 1976 a 1986 a rhai eitemau nas cofnodwyd yn y gyfrol flaenorol. Ceir dau atodiad ar ddiwedd y llyfryddiaeth. Rhestrwyd yn y naill astudiaethau ar draddodiad llenyddol nifer o ardaloedd arbennig, ac yn y llall adolygiadau ar y gweithiau creadigol, yn rhyddiaeth ac yn farddoniaeth, a gyhoeddwyd rhwng 1976 a 1986. Paratowyd mynegai i awduron, golygyddion ac adolygwyr, a mynegai testunol manwl sy'n cyfeirio'r darllenydd nid yn unig at ymdriniaethau penodol ar unigolion a thestunau arbennig, ond at drafodaethau cyffredinol eu natur, yn ogystal, sy'n cyfeirio'n gyson at awduron a thestunau unigol.