Un o gyfres Llyfrau Llygad-Dyst
Dyma gyflwyniad gwreiddiol a chyffrous i hanes dyfeisio. Cewch olwg ‘lygad-dyst’ ar fersiynau cynharaf y telesgop, y microsgop, y set radio a’r teleffon yn ogystal â’r cyfrifiaduron sglodyn-micro diweddaraf.
Cewch weld: melin wynt wedi ei sleisio’n ddwy ran, y cymysgydd bwyd cyntaf, sut olwg oedd ar delesgop Galileo, y ffotograffau cynharaf.
Cewch ddysgu: sut y byddai’r Rhufeiniaid yn goleuo eu cartrefi, sut y cafodd y recordiau cyntaf eu gwneud, sut roedd pobl yn dweud yr amser cyn bod clociau, sut beth oedd triniaeth lawfeddygol yn y 19eg ganrif.
Cewch ddarganfod: sut mae plastigion yn cael eu cynhyrchu, beth sy’n gwneud i gloc dipian, sut siâp oedd ar hedfan yr awyren cyntaf, paham y mae batri’n cynhyrchu cerrynt trydan.
a llawer iawn rhagor…