Chwaraeon

Cyfres Llygad-Dyst

Tim Hammond, addasiad Islwyn Griffiths

64 tt 1993 clawr caled ISBN 0-7083-1209-8

Dyma gyflwydiad newydd, gwreiddiol, a chyffrous i hanes a rheolau prif chwaraeon y byd. Cewch olwg 'llygad-dyst' ar gyfarpar modern a hynafol, datblygiad pob gêm, ei nodweddion mwyaf cyffrous, a'r medrau arbennig y mae'n ofynnol i'r chwaraewyr eu meistroli.

Cewch weld beth sydd i fewn i bêl-fas; sut y newidiodd rhacedi tennis yn ystod y can mlynedd diwethaf; sut mae gwneud peli pêl-droed; sut mae hylif gwrthrhew yn gymorth i atal anafiadau.

Cewch ddysgu pa chwaraewyr sy'n gwisgo paent rhyfel a paham; pa wregys jiwdo sy'n uwch na'r gwregys du; beth yw'r gwahaniaeth rhwng gwn a reiffl; sut mae defnyddio'r gwahanol glybiau golff.

Cewch ddarganfod sut mae gwneud y trac rhedeg modern; beth yw'r gwahaniaeth rhwng bowlio a boules; pa gêm a gafodd ei chwarae gyntaf mewn carchar; sut blu a gaiff eu defnyddio i wneud gwenoliaid, a llawer mwy.