Un o gyfres Llyfrau Llygad-Dyst
Dyma gyflwyniad cyffrous i fyd ceir, ddoe a heddiw. Cewch olwg ‘llygad-dyst’ ar geir, hen a newydd ac o’r mecanwaith sy’n ei gyrru. Byddwch yn eu harchwilio o’r naill ben i’r llall.
Cewch weld: un o geir hynaf y byd, sut i wneud Ford Model T, y tu mewn i Mercedes Gulliwing, ceir ac injans a hanerwyd.
Cewch ddysgu: paham y mae angen gerau ar geir, sut y mae’r injan yn gweithio, sut roedd y gyrwyr cyntaf yn cadw’n gynnes, sut y mae gwefryddion tyrbo yn hybu nerth yr injan.
Cewch ddarganfod: y dulliau rhyfedd a ddefnyddiwyd mewn hen geir i roi rhybudd, sut y mae teiars wedi newid dros y blynyddoedd, sut y cynllunnir ac yr adeiladir ceir heddiw, paham y mae’n rhaid i gar gael hongiad
a llawer iawn rhagor