Joseph Parry

'Bachgen Bach o Ferthyr'

Dulais Rhys

tt ix176 Ebrill 1998 Clawr papur
ISBN 0-7083-1249-7

Dyma ddarlun cynhwysfawr o fywyd rhyngwladol a cherddoriaeth fytholwyrdd cerddor pwysicaf Cymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Dr. Joseph Parry.

` . . . y mae cyfrol ddeniadol Dulais Rhys yn gyfraniad pwysig i'r ymgais i ddarlunio'r gorffennol ac i werthuso crefft greadigol Joseph Parry . . . fe geir atodiadau cynhwysfawr a hynod ddefnyddiol ar gyfer y sawl a garai ymchwilio ymhellach i'r maes.' (Cylchgrawn Hanes Cymru)

'Felly rydym yn ddyledus i Dr Rhys am ailagor y maes lliwgar hwn, fel petai, gyda ffrwyth ei ymchwil am radd doethuriaeth rai blynyddoedd yn ôl, ac i'r Wasg hefyd am gyflwyno'r gwaith mewn modd cyfleus fel cyfrol glawr meddal atyniadol, gyda lluniau diddorol, llawer o enghreifftiau cerddorol ac atodiadau'n cynnwys catalog manwl o weithiau Parry yn ogystal â rhestr ddiddorol o'i ddisgyblion a llyfryddiaeth.' (www.gwales.com)

Yr oedd Joseph Parry yn hoff o atgoffa eraill mai "Bachgen bach o Ferthyr erioed, erioed" ydoedd, hyd yn oed wedi iddo gyrraedd y brig ymysg cerddorion Cymru. Serch hynny, ei enw gorseddol oedd 'Pencerdd America', ac mae'r gyfrol hon yn olrhain y cysylltiad dros yr Iwerydd: ei eni ym Merthyr Tudful, ei fagwraeth yn Pennsylvania, ei addysg yn Llundain, yna'i yrfa academaidd yn Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd. Yr oedd Parry yn gerddor amryddawn: canwr, offerynnwr, cyfeilydd, athro, beirniad, arweinydd, awdur, a chyfansoddwr! Cynhwysir enghreifftiau o'i gerddoriaeth yn y gyfrol, ynghyd â phennod ar ei arddull gerddorol. Mae Joseph Parry: 'Bachgen Bach o Ferthyr' yn gofnod cynhwysfawr o fywyd a cherddoriaeth eilun cerddorol Cymru o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

‘Mae llyfr newydd Dulais Rhys ar Joseph Parry yn un pwysig oherwydd ei fod am y tro cyntaf wedi llwyddo cael gwared ar y camgymeriadau niferus sydd wedi cael eu cynnwys yn y llyfrau eraill ar y cyfansoddwr.’ (Western Mail)

‘Mae’n syndod meddwl cyn lleied a ysgrifennwyd ar Joseph Parry, ac yntau wedi bod yn un o’n harwyr cenedlaethol ni. Wedi’r cyfan, ef oedd y Cymro mwyaf adnabyddus yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn ôl pob tebyg . . . Felly rydym yn ddyledus i Dr Rhys am ailagor y maes lliwgar hwn, fel petai, gyda ffrwyth ei ymchwil . . . ac i’r Wasg hefyd am gyflwyno’r gwaith mewn modd cyfleus fel cyfrol glawr meddal atyniadol, gyda lluniau diddorol, llawer o enghreifftiau cerddorol ac atodiadau’n cynnwys catalog manwl o weithiau Parry, rhestr ddiddorol o’i ddisgyblion, a llyfryddiaeth. (Cerddoriaeth Cymru)

Awdur: Cyfansoddwr, beirniad, arweinydd. Cyn Bennaeth Cerdd, Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin.