HANES CYMRU

J. Graham Jones

vii201 tt, 1994, clawr papur,
ISBN 0-7083-1255-1

BOOK COVER ‘Llyfr defnyddiol dros ben yw hwn, yn rhoi llawer o wybodaeth mewn dull cryno.’ Welsh Historian

Mae'n gryno ac effeithiol ar hanes cymdeithasol Cymru, yn arbennig yr Oesoedd Canol, ac mae ei ddealltwriaeth am hanes gwleidyddol Cymru o adeg Tom Ellis ymlaen yn ddigamsyniol . . . dyma gyfrol hwylus a defnyddiol iawn.’ Cylchgrawn Hanes Cymru

Cyflwyno hanes Cymru y tu mewn i gloriau un gyfrol hylaw, dyna nod J. Graham Jones yn y llyfr darluniadol hwn. Yn dilyn llwyddiant ei gyfrol Saesneg, cawn yma gyfaddasiad sy'n adeiladu ar gryfderau'r gwaith hwnnw trwy ychwanegu at ystod y pynciau a gynhwysir. Yn ogystal â thrafod prif ddigwyddiadau hanes Cymru mewn modd cynhwysfawr a darllenadwy, ceir ynddi helaethrwydd o fywgraffiadau byrion a rhyw bump ar hugain o luniau a mapiau.