BEIRDD A THYWYSOGION

Golygwyd gan Brynley F. Roberts a Morfydd E. Owen

tt xxxii356 1996 clawr caled ISBN 0-7083-1276-4

Cyfrol deyrnged i'r Athro R. Geraint Gruffudd yw hon. Ceir ynddi gasgliad o ysgrifau newydd sy'n ffrwyth yr ymchwil ddiweddaraf ar waith Beirdd y Tywysogion. Mae pob un o'r cyfranwyr yn arbenigwyr yn y maes ac fe drafodir ganddynt amrywiol agweddau megis cefndir Celtaidd y canu, mydryddiaeth a chrefft lenyddol, syniadaeth a'r cyd-destun hanesyddol a llenyddol: mae dwy bennod yn ymdrin â chanu tebyg yn Iwerddon a'r Alban. Bydd y gyfrol hon yn gydymaith anhepgor i oleuo'r corff hwn o farddoniaeth sydd yn dal yn ddieithr i lawer o ddarllenwyr, ac i'w osod yn ei gysylltiadau priodol.

'This volume will be indispensable companion to Beirdd y Tywysogion . . . ' (Zeitschrift für celtische Philologie)

Cynnwys: Bardus Gallice Cantor Appelatur . . . J. E. Caerwyn Williams; Awen y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd Y Chwaer Bosco; Medd a Mêl Farddoni Marged Haycock; Iaith y Llys a Beirdd y Tywysogion D. Simon Evans; Noddwyr a Beirdd Morfydd E. Owen; Bygwth a Dychan mewn Barddoniaeth Llys Gymraeg Catherine McKenna; Y Canu Mawl yn Iwerddon cyn y Normaniaid Proinsias Mac Cana; `A mi, feirdd, i mewn a chwi allan': Cynddelw Brydydd Mawr a'i grefft Ann Parry Owen; Triwyr a gollais: Yr awdlau marwnad i dri mab Gruffudd ap Llywelyn gan Fleddyn Fardd Rhian M. Andrews; Owain Cyfeiliog: Bardd-dywysog? Gruffydd Aled Williams; Cyfeiriadau Traddodiadol a Chwedlonol y Gogynfeirdd Rachel Bromiwch; Ffigur Alexander: Tystiolaeth o brydyddiaeth farddol Aeleg William Gillies; Gwlad ac Arglwydd J. Beverley Smith; Yr Awdl a'i Mesurau Peredur Lynch; Y Gogynfeirdd a'r Englyn Nerys Ann Jones; Yr Hen Risiart Langfford Daniel Huws; Llyfryddiaeth yr Athro R. Geraint Gruffydd Huw Walters.