Magu'r Babi

English
viii186 tt 1997 clawr caled ISBN 0-7083-1305-1

Llyfr yw hwn ar gyfer mamau a thadau a phawb arall sy'n magu neu'n helpu magu babanod a phlant ifainc - ac sydd hefyd wrthi'n dysgu Cymraeg ac am siarad Cymraeg â'r plant. Seilir pob pennod ar ryw dasg gyffredin neu ddigwyddiad ym mywyd plentyn bach - bwydo, gwisgo, cael bath neu fynd am dro. Rhennir y gyfrol yn adrannau ar gyfer babanod hyd at naw mis, plant bach hyd at 18 mis, a phlant dros 18 mis. Ceir cyfieithiadau Saesneg ochr yn ochr â'r ymadroddion Cymraeg.

Seilir yr iaith gartrefol a ddefnyddir ar iaith mamau Cymraeg a recordiwyd mewn sefyllfaoedd real ar hyd ac ar led Cymru. Cynigir dewis o ffurfiau gogleddol a deheuol ond yn gyffredinol safonwyd yr iaith i gyd-fynd â'r ffurfiau y bydd dysgwyr wedi ymgynefino â nhw yn y dosbarth.

Nid llyfr i'w ddarllen trwyddo ar un eisteddiad yw hwn ond yn hytrach un i'w gadw wrth law a'i agor mewn sefyllfa arbennig wrth i rieni ymgodymu â magu plant bach a dysgu Cymraeg yr un pryd. Bydd y gyfres o gartwnau a gomisiynwyd gan yr artist Jac Jones yn siºr o godi gwên i wyneb pawb sydd ynghanol y profiad neu yn ei gofio.

Paratowyd y defnydd ar gyfer y llyfr hwn gan dîm o Ganolfan Addysg Ddwyieithog ac Addysg Iaith Prifysgol Cymru, Aberystwyth dan gyfarwyddyd yr Athro C. J. Dodson. Ariannwyd y prosiect ymchwil gan y Swyddfa Gymreig.

Back to top
pp viii186 1997 hardback ISBN 0-7083-1305-1

This is a book for mothers and fathers and everyone who looks after babies and small children - and at the same time is learning Welsh and wants to speak Welsh with the children. Each chapter centres on a given event in a young child's life : being fed, getting dressed, bath-time or going for a walk.

There are three main divisions: babies up to nine months; small children under eighteen months; and those over eighteen months. English translations appear side by side with the Welsh phrases.

The homely language used is based on the language of Welsh-speaking mothers as it was recorded in real-life situations the length and breadth of Wales. The book offers a choice of northern and southern variants, but generally opts for forms which correspond to those which most learners will have met in the classroom.

This is not a book to be read through at one sitting but rather to be kept handy and opened in given situations as parents cope simultaneously with looking after small children and learning Welsh! The series of cartoons by Jac Jones has been specially commissioned and will surely bring a smile to everyone's face, whether they are bringing up small children or recollecting the experience in tranquillity.

The material for this book was assembled by a team of researchers from the Centre for Bilingual and Language Studies at University of Wales, Aberystwyth, working under the direction of Professor C. J. Dodson. The research project was funded by the Welsh Office.