tt x261 Mawrth 1996 clawr papur ISBN 0-7083-1319-1
Dyma gyfrol arloesol a phwysig felly, ffrwyth cyfnod hir o ymchwil trylwyr, ond rhaid ychwanegu ei bod hi hefyd yn hynod o ddarllenadwy, diolch yn arbennig i arddull glir yr awdur, a'i gallu i gyfleu'n frwdfrydig ei diddordeb byw yn ei phwnc. Barn
Llwyddodd Dr Davies i gywasgu peth wmbredd o wybodaeth i gymharol ychydig o dudalennau. Gwnaeth gyfraniad gwych i ysgolheictod Y Mabinogion ac edrychwn ymlaen yn ffyddiog at gyfraniadau yr un mor wych yn y dyfodol. Llais Llyfrau
Astudiaeth fanwl o ddylanwad y traddodiad llafar ar chwedlau ysgrifenedig Cymraeg yr Oesoedd Canol.
Dyma gyfrol sydd yn cynnig astudiaeth fanwl o grefft y storiwr canoloesol (y cyfarwydd), a dylanwad y grefft honno ar y corpws o chwedlau a adwaenir fel Y Mabinogion. Crynhoir yr hyn a wyddom am y cyfarwydd canoloesol a'i chwedlau mewn pennod ragarweiniol, a chyflwynir y darllenydd i'r ymchwil ryngwladol ddiweddaraf ar lafaredd (orality) a llythrennedd (literacy). Yna, manylir ar y testunau eu hunain; disgrifir a dadansoddir yn drylwyr adeiladwaith y chwedlau, fformiwlau (a ddefnyddir, er enghraifft, wrth agor a chloi chwedl, ac wrth ddisgrifio pobl) a'r defnydd o ymddiddan. Er mai chwedlau llenyddol, ysgrifenedig yw'r Mabinogion, dadleuir mai i'w darllen yn uchel y bwriadwyd hwy, a cheir olion clir o hynny yn y testunau. Defnyddir tystiolaeth lafar Gymraeg gyfoes trwy gyfrwng tapiau o archif Amgueddfa Werin Sain Ffagan, ynghyd â thystiolaeth gymharol (lafar ac ysgrifenedig).
' . . . one must warmly welcome Dr Daviess carefully researched study as a substantial contribution towards our better understanding of medieval Welsh prose narrative. . . ' (Zeitschrift für celtische Philologie)
Cynnwys: 1. Y Cyfarwydd a'i Chwedlau 1.1 Y cyfarwydd 1.2 Y chwedlau 1.3 Y deunydd crai 1.4 Llafaredd/llythrennedd: y damcaniaethau 1.5 Llafar, llyfr a llais yng Nghymru'r Oesoedd Canol 1.6 Casgliadau Nodiadau 2. Adeiladwaith 2.1 Rhagymadrodd 2.2 Adeiladwaith chwedl lafar 2.3 Adeiladwaith chwedlau'r Mabinogion 2.4 Cydlyniad 2.5 Casgliadau Nodiadau 3. Y Fformiwla 3.1 Cyfansoddi fformiwlaig þ y theori 3.2 Y Fformiwla a rhyddiaith 3.3 Fformiwlau rhyddiaith yn y Mabinogion 3.4 Dwbledau 3.5 Casgliadau Nodiadau 4. Ymddiddan 4.1 Ymddiddan - diffinio'r term 4.2 Ymddiddan llafar a llenyddol 4.3 Ymddiddan yn y Mabinogion 4.4 Casgliadau Nodiadau Diweddglo Llyfryddiaeth.
Awdur: Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru Coleg Caerdydd.