Mae'n debyg mai Culhwch ac Olwen yw'r fwyaf cyntefig a'r hynaf o'r chwedlau a gynhwysir yng nghasgliad y 'Mabinogion' a gadwyd yn Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest. Mae'n chwedl hynod o ddiddorol o safbwynt teithi iaith, a cheir ynddi hefyd restrau o enwau diddorol a disgrifiadau trawiadol. Ar ben hynny, mae Culhwch ac Olwen yn chwedl bwysig ym maes astudiaethau llên gwerin a dechreuad y chwedl Arthuraidd. Gwelir ynddi fotiffau amlwg chwedlau rhyngwladol, megis Merch y Cawr a'r Llysfam Eiddigeddus.
Yn 1988 cyhoeddwyd yr argraffiad ysgolheigaidd cyntaf o'r chwedl dan gydolygyddiaeth Rachel Bromwich a D. Simon Evans. Seiliwyd y gyfrol honno ar waith arloesol Syr Idris Foster, ac nid oedd yn cynnwys nodiadau testunol. Yn yr argraffiad newydd hwn ceir rhagymadrodd cynhwysfawr, nodiadau testunol llawn, geirfa a mynegai.
Mae Rachel Bromwich yn Ddarllenydd Emeritws mewn Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caer-grawnt ac yn Athro er Anrhydedd yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Ymhlith ei chyhoeddiadau lu, mae Trioedd Ynys Prydein: The Welsh Triads, Dafydd ap Gwilym: A Selection of Poems, ac Aspects of the Poetry of Dafydd ap Gwilym.
Bu D. Simon Evans yn Athro'r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan o 1974 hyd at 1988, ac yna'n Gyfarwyddwr Mygedol y Ganolfan Ymchwil a Dysg yno tan 1994. Mae'n ysgolhaig amlwg ym maes llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, ac mae ei gyhoeddiadau niferus yn cynnwys Gramadeg Cymraeg Canol, Buched Dewi, Historia Gruffud vab Kenan, a Medieval Religious Literature.