Pobl Gynnar

Cyfres Llygad-Dyst

Addasiad Islwyn Griffiths

64 tt 1997 clawr caled ISBN 0-7083-1379-5

Dyma olwg wreiddiol, a chyffrous ar fyd cyfareddol pobl hynafol a'u ffordd o fyw. Ffotograffau trawiadol byw o offer, arfau, gemwaith, gwisgoedd a hyd yn oed olion cyrff y bobl eu hunain sy'n rhoi golwg 'llygad-dyst' unigryw i ni ar sut y newydiodd bywyd dyn yn ystod ein pedwar miliwn o flynyddoedd cyntaf.

Cewch weld yr offer a ddefnyddiodd y ffermwyr cyntaf; y bywyd hynaf sydd wedi goroesi; arfau pennaeth o'r Oes Efydd; sut golwg oedd ar ein cyndeidiau cynharaf.

Cewch ddysgu pam ddechreuodd dyn sefyll; sut goroesodd pobl oerni'r Oes Iâ; sut y gwelodd gwyddonwyr dwyll Dyn Piltdown; sut i wneud pen bwyell fflint; pa bobl a ddefnyddiai hud i chwilio am fwyd.

Cewch ddarganfod sut y byddai pobl gynnar yn hela ac yn casglu eu bwyd; pa rai a wnâi emwaith o ddannedd llewpart ac adenydd cacwn; sut y bydden nhw'n pobi bara yn yr Oes Efydd; sut y cafodd mwmiau a chyrff mewn corsydd eu cadw; a llawer rhagor.