PEDEIR KEINC Y MABINOGI

Golygwyd gan Syr Ifor Williams

tt lvi336 adargraffiad clawr papur 1996

ISBN 0-7083-1407-4

Cytunir yn gyffredinol mai'r Mabinogi yw prif gyfraniad y Gymraeg i lenyddiaeth Ewrop. Un o gymwynasau mwyaf Ifor Williams i ddiwylliant Cymraeg, felly, fu paratoi'r golygiad safonol hwn o'r pedair chwedl frodorol, sef 'Pwyll Pendefig Dyfed', 'Branwen ferch Ll^yr', 'Manawydan fab Ll^yr' a 'Math fab Mathonwy'. Cyhoeddwyd Pedeir Keinc y Mabinogi gyntaf yn 1930; y mae bellach yn glasur a hwn yw'r argraffiad clawr meddal cyntaf ohono. Ceir ynddo destun y chwedlau wedi'i olygu, nodiadau esboniadol, geirfa a rhagymadrodd cynhwysfawr yn trafod cefndir a strwythur y Pedair Cainc a'r llawysgrifau perthnasol.

Cyfrol anhepgor yw hon i'r sawl sy'n astudio rhyddiaith Gymraeg a'i datblygiad dros y canrifoedd, mytholeg Geltaidd neu chwedlau gwerin rhyngwladol, yn ogystal â Chymraeg Canol.

Addysgwyd Ifor Williams yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Bu ar y staff yno wedyn, yn Athro ac yna'n bennaeth Adran y Gymraeg nes iddo ymddeol yn 1947, pan y'i hurddwyd yn farchog. Yn ogystal â golygu testunau rhyddiaith o'r Oesoedd Canol, gwnaeth waith arloesol wrth olygu llawer o'r canu cynnar Cymraeg, megis Canu Llywarch Hen, Canu Aneirin, Armes Prydein a Canu Taliesin.