‘ . . . this comprehensive reference will be warmly welcomed by not only archaeologists, historians and historical geographers, bur also environmental and earth scientists with an interest in the Quaternary.’ (Archaeologia Cambrensis)
Dyma'r geiriadur termau archaeoleg cyntaf i'w gyhoeddi yn y Gymraeg, ac fe'i lluniwyd gyda chydweithrediad arbenigwyr yn y maes. Mae dwy ran iddo (Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg), a cheir yn y geiriadur cynhwysfawr hwn fwy na 6,000 o dermau a fydd yn galluogi'r defnyddiwr i drafod pob cyfnod archaeolegol, o'r cyfnod cynhanes i'r cyfnod diwydiannol modern. Bydd Geiriadur Termau Archaeoleg yn gyfeirlyfr hanfodol i ddisgyblion a myfyrwyr hanes ac archaeoleg, a bydd hefyd o werth parhaol i gyfieithwyr, cynllunwyr a gweinyddwyr.