ARMES PRYDEIN

Gyda Rhagymadrodd a Nodiadau gan Syr Ifor Williams

tt xlvii76 Adargraffiad clawr papur 1999
ISBN 0-7083-1608-5

Un o’r cerddi darogan enwocaf a chynharaf yw ‘Armes Prydein’, a geir yn Llyfr Taliesin. Fe’i hamserir yn y ddegfed ganrif a’r dybiaeth yw mai eglwyswr neu fynach o dde-orllewin Cymru oedd ei hawdur. Ynddi y mae’r neges wleidyddol yn glir, a darogenir y bydd y Saeson yn cael eu gyrru o dir Prydain gan y Cymry gyda chymorth carfanau eraill megis Sgandinafiaid Dulyn, y Gwyddelod, a gwŷr Ystrad Clud, Cernyw a Llydaw.

Ceir yn yr argraffiad hwn destun y gerdd wedi’i olygu, nodiadau esboniadol a geirfa, ynghyd â rhagymdrodd sy’n trafod cefndir hanesyddol, awduriaeth, dyddiad a chynnwys y gerdd fywiog hon. Dyma, yn ôl Bobi Jones, ‘y gerdd genedlaethol gyntaf yn y Gymraeg’.

Addysgwyd Ifor Williams yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Bu ar y staff yno wedyn, yn Athro ac yna’n bennaeth Adran y Gymraeg nes iddo ymddeol yn 1947, pan y’i hurddwyd yn farchog. Gwnaeth waith arloesol wrth olygu llawer o’r canu cynnar Cymraeg, megis y gyfrol hon, Canu Llywarch Hen, Canu Aneirin a Canu Taliesin, yn ogystal â golygu testunau rhyddiaith yr Oesoedd Canol, yn enwedig Pedeir Keinc y Mabinogi.