Cyflwynir yn y gyfrol hon gasgliad o englynion tair-llinell sydd i’w cael yn Llyfr Coch Hergest a Llyfr Du Caerfyrddin ac sy’n dyddio o’r nawfed neu’r ddegfed ganrif. Er mai Canu Llywarch Hen yw teitl y gyfrol, ceir tri chylch o ganu yma, yn ymwneud â thri chymeriad hanesyddol gwahanol – Cylch Llywarch Hen, Cylch Heledd a Chylch Urien. Cefndir llawer o’r canu yw’r rhyfeloedd rhwng y Cymry a’r Saeson yn y chweched a’r seithfed ganrif ym Mhowys ac ar ffin sir Amwythig, ond cynhwysir hefyd atgofion am ryfela yn yr Hen Ogledd. Ceir yn yr argraffiad hwn destun y cerddi wedi’i olygu, nodiadau esboniadol, a rhagymdrodd cynhwysfawr sy’n trafod eu cefndir hanesyddol, eu hawduriaeth a’u hamseriad, y mesurau a’r llawysgrifau. Hefyd, ymdrinnir â damcaniaeth ddylanwadol Ifor Williams mai rhannau o sagâu hwy yw rhai o’r ymddiddanion ac ymsonau ymhlith yr englynion.
Dyma gasgliad sydd, er ei hynafiaeth, yn cyfleu mewn modd uniongyrchol a grymus emosiynau angerddol a thrasig sydd o hyd yn gallu rhoi ysgytwad, yn ogystal â phleser, i’r darllenydd cyfoes.
Addysgwyd Ifor Williams yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Bu ar y staff yno wedyn, yn Athro ac yna’n bennaeth Adran y Gymraeg nes iddo ymddeol yn 1947, pan y’i hurddwyd yn farchog. Gwnaeth waith arloesol wrth olygu llawer o’r canu cynnar Cymraeg, megis y gyfrol hon, Armes Prydein, Canu Aneirin a Canu Taliesin, yn ogystal â golygu testunau rhyddiaith yr Oesoedd Canol, yn enwedig Pedeir Keinc y Mabinogi.