‘Tamaid blasus iawn i aros pryd a geir yn Canhwyll
Marchogion. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at y wledd!’ (Taliesin)
‘. . . gyfrol gyfoethog. . . ’ (Studia Celtica)
Chwedl gyfoethog yw Peredur: y mae ei naratif yn gymhleth, ei chyd-destun yn aml-ddiwylliannol, ai hanes llawysgrifol yn astrus. Hynny a drafodir yma gan nifer o arbenigwyr cydnabyddedig. Ym mhennod agoriadol Daniel Huws, ymdrinnir â hanes llawysgrifol y chwedl. Yn erbyn y gefnlen hanfodol hon, y mae Peter Wynn Thomas, Brynley F. Roberts a Sioned Davies yn trafod agweddau ar drosglwyddor testun o safbwynt iaith, adeiladwaith ac arddull. Cyd-destun cymdeithasol Peredur sydd yn mynd â sylw ail hanner y gyfrol: agweddau ar y byd sifalrïaidd yw pwnc Morfydd E. Owen, ller chwedl ar lwyfan Ewropeaidd a olrheinir gan Ceridwen Lloyd-Morgan, a Stephen Knight yn cynnig y darlleniad ôl-drefedigaethol cyntaf or testun. Bydd yr astudiaethau yn y gyfrol ryng-ddisgyblaethol hon yn ysgogi edrych o'r newydd nid yn unig ar Peredur ei hunan ond hefyd ar y Mabinogion yn gyffredinol.
Aelodau o staff Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd ywr golygyddion: Athro a Phennaeth yr Adran yw Sioned Davies, ac Athro a chanddo gadair bersonol yw Peter Wynn Thomas.
CYNNWYS
Rhagair
Y Cyfranwyr
Byrfoddau
1. Y Pedair Llawysgrif Ganoloesol Daniel Huws
2. Cydberthynas y Pedair Fersiwn Ganoloesol Peter Wynn Thomas
3. Y Cysyniad o Destun Brynley F. Roberts
4. Cynnydd Peredur vab Efrawc Sioned Davies
5. Arbennic milwyr a blodeu marchogyon: Cymdeithas Peredur Morfydd E. Owen
6. Y Cyd-destun Ewropeaidd Ceridwen Lloyd-Morgan
7. Resemblance and Menace: A Post-Colonial Reading of Peredur Stephen Knight
Llyfryddiaeth
Mynegai