CANU TALIESIN

Golygwyd gan Syr Ifor Williams

115 tt adargraffiad clawr papur 1999
ISBN 0-7083-1646-8

Credir i Daliesin fyw a chanu tua diwedd y chweched ganrif, a chaiff ei enwi, ynghyd ag Aneirin, yn Historia Brittonum y nawfed ganrif fel un o’r beirdd a ganodd ar un adeg yn yr Hen Ogledd. Yn Llyfr Taliesin, ar wahân i lawer o gerddi crefyddol, proffwydol neu chwedlonol a briodolwyd i Daliesin ar gam yn ddiweddarach, ceir grºp o ddeuddeg o gerddi y tybiai Ifor Williams iddynt fod yn waith dilys Taliesin. Yn y grºp hwn, mae chwe cherdd fawl yn cyfarch Urien Rheged a’i fab Owain ab Urien, gan gynnwys yr enghraifft gynharaf ar glawr o gerdd dadolwch neu gerdd gofyn. Disgrifia dwy arall yn fyw iawn frwydrau Urien ac Owain yn erbyn eu gelynion gan gynnwys Angliaid y dwyrain. Ymhlith y lleill, mae dwy gerdd yn moli Gwallog a gysylltir â theyrnas Elfed (Elmet, ardal Leeds) a moliant i Gynan Garwyn o Bowys, y gerdd gynharaf sydd gennym i frenin o Gymru.

Ceir yn yr argraffiad hwn destun y deuddeg cerdd hyn wedi’i olygu, yn ogystal â nodiadau esboniadol a geirfa, a rhagymadrodd cynhwysfawr sy’n trafod cefndir hanesyddol, awduriaeth, dyddiad a chynnwys y cerddi pwysig hyn.

Addysgwyd Ifor Williams yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Bu ar y staff yno wedyn, yn Athro ac yna’n bennaeth Adran y Gymraeg nes iddo ymddeol yn 1947, pan y’i hurddwyd yn farchog. Gwnaeth waith arloesol wrth olygu llawer o’r canu cynnar Cymraeg, megis y gyfrol hon, Canu Llywarch Hen, Canu Aneirin ac Armes Prydein, yn ogystal â golygu testunau rhyddiaith yr Oesoedd Canol, yn enwedig Pedeir Keinc y Mabinogi.