BREUDWYT RONABWY

G. Melville Richards

xlv91 tt adargraffiad clawr papur 2001
0-7083-1701-4

Un o’r chwedlau Arthuraidd brodorol yw Breudwyt Ronabwy a cheir yr unig gopi canoloesol ohoni yn Llyfr Coch Hergest. Lleolwyd y chwedl ym Mhowys yn ystod teyrnasiad Madog ap Maredudd a fu farw yn 1160. Yn y stori gymhleth ac addurnedig hon, ceir cryn ddychan ar gymdeithas gyfoes yr awdur ac ar lenyddiaeth Arthuraidd trwy wrthgyferbynnu cewri’r gorffennol â dynion bychain oes yr awdur (a holi’n gynnil a oedd yr arwyr gynt yn gewri wedi’r cwbl!). Y mae Breudwyt Ronabwy yn hynod oherwydd nad chwedl draddodiadol mohoni ond cyfansoddiad bwriadus gan awdur craff a chrefftus.

Ceir yn yr argraffiad hwn destun y chwedl wedi’i olygu, yn ogystal â nodiadau esboniadol a geirfa, a rhagymadrodd cynhwysfawr sy’n trafod y dystiolaeth lawysgrifol, a ffynonellau llenyddol, cefndir hanesyddol, iaith a chrefft y chwedl ddiddorol hon.

Darlithydd ac yna’n ddarllenydd yn Adran Gelteg Prifysgol Lerpwl oedd Melville Richards cyn symud i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1965 yn Athro’r Gymraeg. Ymhlith ei gyhoeddiadau eraill yr oedd Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (1938) a Welsh Administrative and Territorial Units: Medieval and Modern (1969), Enwau Tir a Gwlad (1998, ar ôl ei farw, wedi’i gwblhau gan Tomos Roberts). Bu’n fwriad ganddo grynhoi ei gasgliad enfawr o enwau lleoedd yng Nghymru yn onomasticon, ond ni lwyddodd i’w gwblhau cyn ei farw yn 1973; cedwir y casgliad yn awr yn Llyfrgell y Brifysgol ym Mangor.