Aristoteles: Barddoneg

J. Gwyn Griffiths

x156 tt adargraffiad 2001 clawr papur
ISBN-10 0-7083-1718-9

book cover Ailargraffiad o gyfieithiad Cymraeg gwerthfawr J Gwyn Griffiths o drafodaeth bwysig yr athronydd Groegaidd Aristoteles ar farddoniaeth, ynghyd â rhagymadrodd swmpus a nodiadau manwl. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1978

Prin bod unrhyw lyfr wedi dylanwadu’n fwy ar gwrs beirniadaeth lenyddol dros y canrifoedd na Barddoneg yr athronydd Aristoteles. Arweiniodd ei ymdriniaeth ef â geiriau fel mimesis, hamartia a catharsis at ddeongliadau a fu o’r pwys mwyaf yn hanes datblygiad drama, yn arbennig trasiedi, yn Ewrop. Yn y gyfrol ragorol hon, o waith J. Gwyn Griffiths, cyflwynir trafodaeth Aristoteles wedi’i chyfieithu’n ofalus o’r Roeg a’i chyflwyno mewn Cymraeg rhywiog a naturiol. Hefyd, yn y rhagymadrodd a’r nodiadau, ceir arweiniad safonol i brif syniadau’r Farddoneg.