(Mae
croeso ichi gopïo a/neu addasu’r tasgau hyn ar gyfer eu defnyddio gyda’ch
dosbarth.)
Tasg
1
Pa
lythrennau sy’n ymddangos yn yr wyddor Gymraeg ond nid yn yr wyddor Saesneg?
Gwnewch restr ohonynt ac yna, os yn bosibl, chwiliwch am ac ysgrifennwch air
sy’n dechrau gyda phob un o’r llythrennau hynny.
Tasg
2
Gan
edrych ar y llythyren gyntaf yn unig, rhowch y geiriau canlynol yn nrhefn yr
wyddor. Atgoffwch eich hun drwy edrych ar stribedi’r wyddor, a chofiwch fod
rhai llythrennau yn Gymraeg yn ddwbl.
anrheg
llaw
yfed
hufen
iâ
rwber
ffordd
wyth
tad-cu
Rhowch
y grwpiau canlynol o eiriau yn nhrefn yr wyddor. Bydd rhaid i chi edrych ar fwy
nag un llythyren ar ddechrau’r geiriau. Defnyddiwch stribedi’r wyddor ar
dudalennau’r geiriadur i’ch helpu chi.
cartref
gorau
rhew
caer
grisiau
rhagor
cawr
galw
rhoi
cae
gweithio
rhy
cawod
golff
rhifo
cael
gafr
rhieni
carden
gwallt
rhywbeth
caws
glas
rhad
carped
gobeithio
rhestr
car
gweld
rhwng
a)
Edrychwch ar y llun ar dudalen y llythyren ‘Ng’. Defnyddiwch y
geiriadur i chwilio am y geiriau Cymraeg am bum peth gallwch chi eu gweld yn y
llun, ac ysgrifennwch y geiriau.
b)
Edrychwch ar rai o’r lluniau eraill yn y geiriadur a chwiliwch am
gymaint o eiriau Cymraeg ag sy’n bosibl am bethau sydd yn y lluniau. Gwnewch
restr ohonynt.
Rydych
chi am siarad am eich hoff hobïau a chwaraeon. Gan ddefnyddio’r geiriadur,
chwiliwch am gymaint o eiriau Cymraeg am hobïau a chwaraeon ag sy’n bosibl,
ac ysgrifennwch restr ohonynt.
Nawr
ysgrifennwch lythyr byr, yn Gymraeg, at ffrind, yn siarad am eich hobïau, a
gofynnwch am hobïau eich ffrind. Fe fydd eich athro/athrawes yn eich helpu chi
gyda ffurf y llythyr.
Tasg
6
Darllenwch
y paragraff canlynol am wyliau Gareth. (Mae fersiwn A yn defnyddio ‘gyda’r
dosbarth’, ac mae fersiwn B yn defnyddio ‘efo’r dosbarth’.) Chwiliwch am
y geiriau a danlinellwyd yn y geiriadur, ac ysgrifennwch ystyr y geiriau yn
Saesneg.
(A)
Gareth
ydw i. Ym mis Mehefin, es i i Wersyll yr Urdd, Llangrannog
gyda’r dosbarth. Mae Llangrannog ar lan y môr. Mae llawer o
bethau i’w gwneud yn y gwersyll. Dwi’n mwynhau nofio, sgio a
merlota. Dw i ddim yn gallu sglefrolio achos mae’n anodd, ond
dwi’n dwlu ar ddawnsio yn y disgo achos mae’n llawer o hwyl.
Mae’r bwyd yn y gwersyll yn flasus iawn. Ces i amser bendigedig
yn Llangrannog.
merlota
rhedeg
(B)
Gareth
ydw i. Ym mis Mehefin, es i i Wersyll yr Urdd, Llangrannog efo’r
dosbarth. Mae Llangrannog ar lan y môr. Mae llawer o bethau i’w
gwneud yn y gwersyll. Dwi’n mwynhau nofio, sgio a merlota. Dw i
ddim yn gallu sglefrolio achos mae’n anodd, ond dwi’n dwlu
ar ddawnsio yn y disgo achos mae’n llawer o hwyl. Mae’r bwyd yn y
gwersyll yn flasus iawn. Ces i amser bendigedig yn Llangrannog.
Nawr
bod ystyron Saesneg y geiriau gyda chi, a ydych chi’n deall y paragraff?
Tasg
7
Darllenwch
y llythyr canlynol oddi wrth Rhian. (Mae fersiwn A yn defnyddio ‘mae ... ’da
fi’, ac mae fersiwn B yn defnyddio ‘mae ... gen i’.) Chwiliwch am y
geiriau a danlinellwyd yn y geiriadur, ac ysgrifennwch ystyr y geiriau yn
Saesneg.
(A)
Annwyl
Catrin,
Helo! Fy enw i ydy Rhian. Dwi’n ddeg oed ac mae dau frawd
’da fi. Mae ci a mochyn gini ’da fi hefyd.
Mae
gwallt golau, hir, syth ’da fi a llygaid gwyrdd.
Dwi’n mynd i barti pen-blwydd ar ôl cinio heddiw yn y ganolfan
hamdden. Dwi’n gwisgo jîns a blows liwgar.
Y bore ‘ma, es i i’r llyfrgell. Ces i lyfr allan am bobl
enwog.
Hwyl fawr,
Rhian
(B)
Annwyl
Catrin,
Helo! Fy enw i ydy Rhian. Dwi’n ddeg oed ac mae dau frawd
gen i. Mae ci a mochyn gini gen i hefyd.
Mae
gwallt golau, hir, syth gen i a llygaid gwyrdd.
Dwi’n mynd i barti pen-blwydd ar ôl cinio heddiw yn y ganolfan
hamdden. Dwi’n gwisgo jîns a blows liwgar.
Y bore ‘ma, es i i’r llyfrgell. Ces i lyfr allan am bobl
enwog.
Hwyl fawr,
Rhian
Nawr
bod ystyron Saesneg y geiriau gyda chi, a ydych chi’n deall y llythyr?
Tasg
8
Gyda’ch
athro/athrawes, neu gyda phartner, trafodwch beth gawsoch chi i ginio.
Beth
gest ti i ginio?
(What
did you have for dinner?)
Ces
i . . .
(I had . . . )
Gan
ddefnyddio’r geiriadur, ysgrifennwch restr o fwyd gawsoch chi i ginio.
Nawr,
ysgrifennwch ddyddiadur yn Gymraeg, yn dweud beth gawsoch chi i ginio bob dydd
am wythnos.
10.0pt">