What’s the word for . . . ? Beth yw’r gair am . . . ?

An illustrated dictionary - Geiriadur â lluniau

Compiled by Carol Williams / Lluniwyd gan Carol Williams

‘Defnyddio’r Geiriadur’ yw’r fersiwn Cymraeg o’r adran ‘Using the Dictionary’ sydd ar dudalennau 121–5 yn What’s the Word for …? Beth yw’r Gair am …? Mae croeso ichi ei gopïo ar gyfer ei ddefnyddio gyda’ch dosbarth.

‘Defnyddio’r Geiriadur’ is the Welsh version of the section ‘Using the Dictionary’ which is on pages 121–5 in What’s the Word for …? Beth yw’r Gair am …? You are welcome to copy it for use with your class.

Defnyddio’r Geiriadur

·        Mae dwy adran yn y geiriadur:

Cymraeg–Saesneg

Saesneg–Cymraeg

·        Mae’r geiriau yn nhrefn yr wyddor.

·        Mae’r wyddor Gymraeg yn ymddangos ar ymyl pob tudalen yn yr adran Gymraeg–Saesneg.

·        Mae’r wyddor Saesneg yn ymddangos ar ochr pob tudalen yn yr adran Saesneg–Cymraeg.

·        Mae’r ddwy wyddor yn wahanol.

·        Yn yr adran Gymraeg–Saesneg, cewch yr wybodaeth ganlynol:

1            gair, yn Gymraeg, mewn teip amlwg;

2            y rhan ymadrodd – e.e. enw benywaidd, berf, ansoddair – wedi’i byrhau yn Gymraeg, ac mewn llythrennau italaidd (mae rhestr o’r rhain i gyd ar dudalen 4 o’r geiriadur);

3            weithiau, mewn cromfachau, lluosog yr enw;

4            ystyr y gair yn Saesneg, e.e.

 ath eb (cathod): cat

·        Mae marciau atalnodi gwahanol yn cael eu defnyddio fel a ganlyn:

:     yn yr adran Gymraeg–Saesneg, mae ystyr Saesneg y gair Cymraeg yn dilyn hwn, e.e.

allan adf: out

,    yn yr adran Gymraeg–Saesneg, mae hwn yn dod rhwng geiriau Saesneg gwahanol sy’n gallu cael eu defnyddio i gyfieithu’r gair Cymraeg; yn yr adran Saesneg–Cymraeg, mae hwn yn dod rhwng geiriau Cymraeg gwahanol sy’n gallu cael eu defnyddio i gyfieithu’r gair Saesneg, e.e.

croen eg: skin, peel

present      anrheg, rhodd

;    yn yr adran Gymraeg–Saesneg, defnyddir hwn pan fydd gan un gair Cymraeg fwy nag un ystyr Saesneg gwahanol, e.e.

gwneud be: to do; to make

/      yn yr adran Gymraeg–Saesneg, mae hwn yn dangos bod y gair Cymraeg weithiau’n cael ei sillafu’n wahanol, e.e.

                                                       tre / tref eb (trefi): town

·        Weithiau, mae rhifau’n dilyn parau o eiriau sy’n edrych yn union yr un peth ond mae gan y gair ddau neu fwy o ystyron cwbl wahanol yn yr iaith arall, e.e.

de1 eg: south

de Cymru : south Wales

yn y de : in the south

 

de2 eb, a: right

trowch i'r dde : turn right

ar y dde : on the right

   centre1                        canol

a centre2 (a building)

canolfan

·        Mae rhai ffurfiau lluosog Cymraeg yn edrych yn wahanol i’r gair unigol. Er mwyn eich helpu chi i ddod o hyd iddyn nhw, mae’r ffurfiau lluosog hyn wedi cael eu cynnwys yn eu trefn cywir yn ôl yr wyddor, yn ogystal ag mewn cromfachau yn dilyn y gair unigol.

     Er enghraifft, rydych chi’n gweld y gair ‘brodyr’ mewn darn darllen Cymraeg ac rydych chi am wybod yr ystyr. Edrychwch am y gair o dan ‘B’ ac fe welwch y canlynol:

                      brodyr gw brawd

gw yw’r talfyriad am ‘gweler’. Y cam nesaf felly yw edrych am y gair ‘brawd’, ac fe gewch hyn:

                      brawd eg (brodyr): brother

Fel rydych chi eisoes wedi darllen uchod, y gair mewn cromfachau yw ffurf luosog y gair sydd mewn teip trwm, felly ystyr ‘brodyr’ yw ‘brothers’.

·          Weithiau, yn yr adran Gymraeg–Saesneg, mae enghreifftiau o ymadroddion defnyddiol wedi cael eu cynnwys i ddangos sut i ddefnyddio’r gair Cymraeg neu i sicrhau bod yr ystyr yn glir, e.e.

amser eg (amserau): time

amser cinio: lunchtime, dinnertime

amser chwarae: playtime

amser mynd adre: time to go home

neu

ail a: second

            yr ail dro: the second time

eiliad egb (eiliadau): second

            60 eiliad = munud: 60 seconds = a minute

·        Efallai na fyddwch chi’n gallu dod o hyd i’r gair Cymraeg yr ydych chi’n chwilio amdano yn yr adran Gymraeg–Saesneg yn syth, oherwydd bod llythyren gyntaf gair weithiau’n newid. Dyma ddwy enghraifft i’ch helpu i ddod o hyd i’r geiriau hyn.

(1) Yn y frawddeg ‘Beth ydy enw’r gath?’ rydych chi’n chwilio am ystyr y gair gath. Dyma’r camau i’w dilyn:

Ø      Trowch i’r llythyren ‘G’ yn yr adran Gymraeg–Saesneg.

Ø      Edrychwch am y gair ‘gath’.

Ø      Ni allwch ddod o hyd i’r gair ‘gath’. Edrychwch ar stribed yr wyddor ar ymyl y tudalen. Mae’r llythyren ‘G’ yn edrych fel hyn: G . . . ond mae cylch o gwmpas y llythyren ‘c’.

Ø      Newidiwch y llythyren ‘g’ ar ddechrau ‘gath’ i ‘c’.

Ø      Nawr, trowch i’r llythyren ‘C’ yn yr adran Gymraeg–Saesneg ac edrychwch am y gair ‘cath’. Dyma beth welwch chi:

cath eb (cathod): cat

(2) Yn y frawddeg ‘Ble mae dy lyfr?’, rydych chi’n chwilio am ystyr y gair lyfr. Dyma’r camau i’w dilyn:

Ø      Trowch i’r llythyren ‘L’ yn yr adran Gymraeg–Saesneg.

Ø      Edrychwch am y gair ‘lyfr’.

Ø      Ni allwch ddod o hyd i’r gair ‘lyfr’. Edrychwch ar stribed yr wyddor ar ymyl y tudalen. Dangosir y llythyren ‘L’ fel hyn: L . . . ond mae cylch o gwmpas y llythyren ‘ll’.

Ø      Newidiwch y llythyren ‘l’ ar ddechrau ‘lyfr’ i ‘ll’.

Ø      Nawr, trowch i’r llythyren ‘Ll’ yn yr adran Gymraeg–Saesneg ac edrychwch am y gair ‘llyfr’. Dyma beth welwch chi:

llyfr eg (llyfrau): book

Dyma’r holl newidiadau posibl:

Gair yn y geiriadur             Newidiadau i’r lythyren gyntaf

ci                                 gi                     nghi                chi

pen                              ben                  mhen              phen

tad                               dad                  nhad                thad

gardd                             ardd                 ngardd                       

brawd                          frawd               mrawd            

dosbarth                     ddosbarth            nosbarth                    

mam                            fam                                                     

llyfr                            lyfr                                                     

rhaglen                      raglen                                                

            Mae’n bwysig iawn cofio bod ll, rh, dd, ng, ch, ph a th yn cyfrif fel un llythyren yn yr wyddor Gymraeg, er eu bod, ar yr olwg gyntaf, yn edrych fwl dwy lythyren.

Gadewch i ni nawr edrych ar rai o’r geiriau yn ail golofn y newidiadau uchod (neu ar dudalen 123 o’r geiriadur). I ddechrau, rydych chi eisiau edrych am y gair ‘ngardd’. Oherwydd ei fod yn dechrau â’r llythyren Gymraeg ‘ng’, trowch i ‘Ng’ yn adran Gymraeg–Saesneg y geiriadur. Nid ydych yn gallu dod o hyd i’r gair yno, felly rydych chi’n edrych ar stribed yr wyddor ar ymyl y dudalen.

Fel y gwelsom gyda ‘lyfr/llyfr’ uchod, mae yna lythyren â chylch o’i chwmpas – ‘g’ y tro hwn. Newidiwch ‘ng’ yn y gair ‘ngardd’ i ‘g’. Fe gewch y gair ‘gardd’. Nawr, edrychwch o dan ‘G’ ac fe welwch:

gardd eb (gerddi): garden.

Nesaf, rydych chi’n chwilio am y gair ‘nghi’. Eto, oherwydd ei fod yn dechrau gyda’r llythyren Gymraeg ‘ng’, trowch i ‘Ng’ yn yr adran Gymraeg–Saesneg. Y tro hwn, fe sylwch fod y llythyren ‘h’ yn dilyn y llythren ‘ng’. Pan fydd y llythyren ‘h’ yn dilyn y llythyrennau ‘ng’, ‘m’ or ‘n’ (fel yn nghi, mhen, nhad), edrychwch ar stribed yr wyddor am lythyren â sgwâr o’i chwmpas, nid cylch.

Yn yr achos hwn, mae sgwâr o gwmpas y llythyren ‘c’. Nawr, gollyngwch yr ‘h’, newidiwch ‘ng’ i ‘c’, ac yn lle ‘nghi’ fe gewch ‘ci’. Edrychwch o dan ‘C’ yn yr adran Gymraeg–Saesneg, ac fe welwch:

ci eg (cŵn): dog.

·        Mae adran Saesneg–Cymraeg y geiriadur yn symlach. Dyma gamau hawdd i’w dilyn pan fyddwch chi am ddod o hyd i gyfieithiad Cymraeg gair Saesneg, gyda thair enghraifft.

(1) I ddechrau, rydych chi am wybod y gair Cymraeg am ‘coal’.

Ø      Trowch i’r adran Saesneg–Cymraeg.

Ø      Edrychwch ar lythyren gyntaf y gair, sef ‘c’.

Ø      Dewch o hyd i’r adran ‘C’ gan ddefnyddio stribedi’r wyddor Saesneg i’ch helpu chi.

Ø      Dewch o hyd i’r gair ‘coal’. Dyma beth welwch chi:

 

coal

glo

 

(2) Nawr rydych chi am ysgrifennu’r frawddeg ‘The children are singing’ yn Gymraeg. Rhaid i chi chwilio am y gair ‘children’.

Ø      Trowch i’r adran Saesneg–Cymraeg.

Ø      Edrychwch ar lythyren gyntaf y gair, sef ‘c’.

Ø      Dewch o hyd i’r adran ‘C’ gan ddefnyddio stribedi’r wyddor Saesneg i’ch helpu chi.

Ø      Ni allwch ddod o hyd i’r gair ‘children’ yn yr adran ‘C’, ond fe welwch chi’r gair ‘child’:

 
 

child

plentyn

 

Ø      Nawr, trowch i’r adran Gymraeg–Saesneg, a chwiliwch am y gair ‘plentyn’. Dyma beth welwch chi:

plentyn eg (plant): child

Rydych chi’n gwybod bod y gair mewn cromfachau yn ffurf luosog felly ‘plant’ yw’r gair Cymraeg am ‘children’.

Ø        Felly, eich brawddeg Gymraeg fydd: Mae’r plant yn canu.

(3) Y frawddeg nesaf rydych chi am ei chyfieithu yw ‘Huw likes painting’, ac mae rhaid i chi chwilio am y gair ‘painting’.

Ø      Trowch i’r adran Saesneg–Cymraeg.

Ø      Edrychwch ar lythyren gyntaf y gair, sef ‘p’.

Ø      Dewch o hyd i’r adran ‘P’ gan ddefnyddio stribedi’r wyddor Saesneg i’ch helpu chi.

Ø      Ni allwch ddod o hyd i’r gair ‘painting’ yn yr adran ‘P’, ond fe welwch chi’r gair ‘paint’ ddwywaith:

 
 

paint

paent

to

paint

peintio

Rhaid i chi fod yn siwr eich bod yn dewis y gair cywir.

Ø      Nawr, trowch i’r adran Gymraeg–Saesneg, a chwiliwch am y geiriau ‘paent’ a ‘peintio’.

Ø      Edrychwch ar y rhestr o fyrfoddau ar dudalen 4 o’r geiriadur. Cofiwch eich bod yn defnyddio’r un gair yn Gymraeg i gyfieithu ‘to paint’ and ‘painting’, a’i fod yn ferf neu ferfenw. Y byrfodd am ferfenw yw be. Dyma beth welwch chi yn y geiriadur am y ddau air:

paent eg: paint

peintio be: to paint

 

Mae’r byrfodd be yn dilyn ‘peintio’, felly dyna’r gair cywir. Ystyr y byrfodd eg sy’n dilyn ‘paent’ yw ‘enw gwrywaidd’.

Ø      Felly, eich brawddeg Gymraeg fydd: Mae Huw yn hoffi peintio.