What’s the word for . . . ? Beth yw’r gair am . . . ?

An illustrated dictionary - Geiriadur â lluniau

Compiled by Carol Williams / Lluniwyd gan Carol Williams

< name="nodiadau">NODIADAU YCHWANEGOL AR GYFER ATHRAWON NEU RIENI

  1. Dewch yn gyfarwydd â’r adran ‘Defnyddio’r geiriadur’, ac yna trafodwch y cynnwys gyda’r plant, yn ôl eu hoedran a’u gallu (gweler 3 isod hefyd)

  2. Dewiswch y tasgau mwyaf addas ar gyfer eich disgyblion (gweler ‘Awgrymiadau ar gyfer tasgau’ ar y wefan hon). Addaswch a datblygwch y tasgau yn ôl yr angen, wrth i chi a’r plant ddod yn gyfarwydd â’r deunydd.

  3. Trafodwch y gwahaniaethau rhwng yr wyddor Gymraeg a’r wyddor Saesneg gyda’r plant (gweler Tasgau 1–3).

  4. Dewch yn gyfarwydd â’r adran sy’n trafod newidiadau i lythrennau (treigladau) a sut i ddefnyddio stribedi’r wyddor i’ch helpu i chwilio am eiriau. Trafodwch y rhain gyda’r plant os yw’n briodol (h.y. gan gymryd oedran a gallu’r plant i ystyriaeth, yn ogystal â’r dasg dan sylw). Yn nhasgau 6 a 7, lle gofynnir i’r plant chwilio am ystyr geiriau a danlinellwyd, mae rhai o’r geiriau wedi eu treiglo. Ar dudalen 123 o ‘Using the Dictionary/Defnyddio’r Geiriadur’, mae dwy enghraifft o sut i chwilio am eiriau sydd wedi’u treiglo, ac ar duadlen 124 mae canllawiau pellach am sut i ddefnyddio stribedi’r wyddor. Dilynwch yr un patrwm ar gyfer llythrennau eraill sydd wedi’u treiglo.

  5. Trafodwch ffurf ysgrifennu llythyr, gan gynnwys y cyfeiriad, y dyddiad (gweler o dan y geiriau ‘dydd’ a ‘mis’ yn yr adran Gymraeg–Saesneg, ar gyfer rhestri llawn o ddyddiau’r wythnos a’r misoedd), ‘Annwyl’ a ‘Hwyl fawr’ (gweler tasgau 5 a 7).

  6. Anogwch y plant i ddewis llyfr darllen Cymraeg, ac i ddefnyddio’r adran Gymraeg–Saesneg i ddod o hyd i ystyr rhai o’r geiriau.
  7. Anogwch y plant i ddefnyddio’r geiriadur wrth ymgymryd â thasgau ysgrifennu a osodwyd gennych chi. Cyflwynwch iddyn nhw y camau a geir ar dudalennau 124–5 o ‘Using the Dictionary/Defnyddio’r geiriadur’ ar gyfer chwilio am eiriau Cymraeg. Dylai hyn eu hannog i ddatblygu’r arfer o wirio gair o’r adran Saesneg–Cymraeg yn yr adran Gymraeg–Saesneg cyn ei ddefnyddio.

  8. Yn nhasg 4(b) mae’r plant yn cael eu hannog i ddefnyddio’r lluniau i ddod o hyd i fwy o eiriau am bethau (e.e ar dudalen 29, gellid defnyddio’r llun o ffatri i sbarduno’r plant i chwilio am y geiriau hyn: lori, drws, wal, ffenest, simnai, mwg, to). Weithiau, fe fydd plentyn am gael gair sydd heb ei gynnwys yn y geiriadur. Byddwch yn barod weithiau i chwilio am eiriau mewn geiriadur arall sy’n fwy, (gweler 10 isod), neu i awgrymu gair arall gallai’r plentyn ei ddefnyddio. Er enghraifft, mae gwylanod yn ymddangos mewn mwy nag un llun, ond gellid defnyddio’r gair ‘aderyn’; ac ar dudalen 82 mae marchog yn y llun, ond gellid defnyddio’r gair ‘dyn’.

  9. Ar y wefan, fe gewch adran o’r enw ‘Trafod y lluniau’. Mae’r adran hon yn cynnwys rhywfaint o eirfa ychwanegol sy’n berthnasol i’r lluniau, yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer cwestiynau addas i’w defnyddio fel sail i drafod rhai o’r lluniau mwy.

  10. Mae What’s the Word for . . . ? Beth yw’r Gair am? yn cynnwys tua 1,500 o eiriau. Dyma restr o eiriaduron eraill a allai fod yn defnyddiol i chi neu’r plant os oes angen chwilio am eiriau sydd heb eu cynnwys yn y geiriadur neu ar y wefan:

Y Ditectif Geiriau/Welsh Children’s Word Detective, Heather Amery, addasiad Roger Boore (Dref Wen)

Geiriadur Cynradd Gomer, D. Geraint Lewis (Gwasg Gomer)

Geiriadur Gomer i’r Ifanc, D. Geraint Lewis (Gwasg Gomer)

Y Geiriadur Lliwgar, Heather Amery, addasiad Roger Boore (Dref Wen)

Y Termiadur Ysgol, Delyth Prys a J. M. P. Jones (ACCAC)

The Welsh Academy English–Welsh Dictionary: Geiriadur yr Academi, Bruce Griffiths gyda Dafydd Glyn Jones (Gwasg Prifysgol Cymru).