Cryno-ddysg y Cymry

Cyflwyniad i ddiarhebion byw, idiomau ac ymadroddion idiomatig ar gyfer dysgwyr

Cennard Davies

x118 tt Tachwedd 2002 clawr papur
ISBN 0-7083-1775-8

book coverBwriad y gyfrol hylaw hon yw cyflwyno i ddysgwyr profiadol un rhan o gyfoeth yr iaith, sef ei diarhebion; yr ymadroddion neu ddywediadau bachog o ddoethineb sy’n britho iaith bob dydd – cryno-ddysg y Cymry. Dewiswyd llawer o’r diarhebion a glywir yn weddol aml a’u gosod mewn deialog er mwyn goleuo ac egluro eu defnydd. Ceir yn ogystal restr o idiomau ac ymadroddion idiomatig, ynghyd â geirfa bwrpasol i hwyluso’r darllen.

‘Cyfrol fuddiol i ddysgwyr ac un ddifyr i unrhyw un arall sy'n ymhyfrydu mewn iaith a'i chyfoeth a'i nodweddion.’ Llais Llên

Er mai at ddysgwyr profiadol yn bennaf y bwriedir y gyfrol hon, bydd cynnwys a diwyg y gyfrol yn sicr o apelio at Gymry iaith gyntaf – y rhai sydd am loywi eu hiaith lafar ac ysgrifenedig a’r sawl sydd â diddordeb mewn diarhebion ac iaith idiomatig. Cyfrol ydy, felly, fydd yn gaffaeliad pendant i bawb yn eu hymdrechion i loywi eu hiaith.

Mae Cennard Davies yn flaengar iawn ym maes dysgu Cymraeg i oedolion. Bu’n ddarllenydd a phennaeth Canolfan Astudiaethau Iaith Prifysgol Morgannwg cyn ymddeol, ac mae wedi cyhoeddi sawl llyfr ar gyfer dysgwyr a Chymry-Cymraeg iaith gyntaf, gan gynnwys Dros y Bont, Lluniau Llafar, Y Geiriau Bach a Torri’r Garw.