‘…nid wyf yn amau am eiliad na fyddai wedi’i blesio’n fawr nid yn unig gan rychwant y pynciau a drafodir yma, ond hefyd gan yr amrywiaeth yn y fethodoleg a gymhwysir wrth wneud
hynny . . . Ceir yma olygu deallus a dychmygus, heb or-ddamcaniaethu . . .
mae’n dda iawn ei chael.’ Studia Celtica
Yn y gyfrol deyrnged hon i’r Athro J. E. Caerwyn Williams ceir casgliad o ysgrifau amrywiol ar destunau Cymraeg yr Oesoedd Canol, yn farddoniaeth ac yn rhyddiaith chwedlonol, wedi eu cyfrannu gan rai o arbenigwyr amlycaf y maes. Mae’r ysgrifau i gyd yn ffrwyth ymchwil wreiddiol, a defnyddir dulliau blaengar i oleuo hanes creu a throsglwyddo testunau. Ymhlith y pynciau a drafodir y mae’r ffynonellau llawysgrif, gan gynnwys y dadansoddiad cyflawn cyntaf o wneuthuriad Llyfr Coch Hergest a’r lluniau cywrain yn un o lawysgrifau Gutun Owain, iaith y testunau, awduriaeth ac awdurdod, cynganeddion Dafydd ap Gwilym, perfformiad y farddoniaeth, ac effeithiau’r traddodiad llafar. Dau destun a olygir am y tro cyntaf yma yw cerdd gynnar am Geridwen ac ymdriniaeth fydryddol â Gweddi’r Arglwydd.
Dengys cynnwys y gyfrol ddadlennol hon y fath lewyrch sydd ar ysgolheictod Cymraeg y dwthwn hwn, a chan fod hynny i raddau helaeth yn ganlyniad i ddylanwad yr Athro J. E. Caerwyn Williams fel cyfarwyddwr ymchwil a chynheiliad dysg, saif y casgliad hwn yn deyrnged glodwiw a phriodol iddo ef.
Mae’r Dr Iestyn Daniel yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a’r Dr Marged Haycock yn Ddarllenydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Pennaeth Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru Abertawe yw’r Athro Dafydd Johnston ac mae’r Dr Jenny Rowland yn Uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Coleg y Brifysgol, Dulyn.