Dawn Dweud

Lewis Morris

Alun R. Jones

xii266 tt 10 llun du a gwyn 216 x 138mm Rhagfyr 2004 clawr papur
ISBN 0-7083-1922-X

book cover ‘Y mae’r awdur yn llwyddo i wau edau hanes bywyd a hanes llên yn ddeheuig ac yn ddarllenadwy. Yn fy marn i, y mae’r astudiaeth hon yn cyflwyno Lewis Morris y llenor mewn ffordd lawnach nag a wneud o’r blaen.’ Brynley F. Roberts

Bywgraffiad llenyddol yw hwn o un o ffigyrau amlycaf a mwyaf llachar llên Cymru, Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn, 1701–65). Cymeriad cymdeithasgar, hyderus oedd y Llew tew, a chanddo amlochredd ryfeddol sy’n sicrhau ei le fel un o feibion hynotaf Cymru. Ymhlith troeon eraill yn ei fywyd, bu’n fapiwr tir a môr, yn swyddog tollau, yn oruchwyliwr mwynfeydd ac yn amaethwr. Cadwyd cof amdano ei fod yn medru adeiladu cwch a’i hwylio a gwneud telyn a’i chanu. Bron nad oedd terfyn ar ei ddiddordebau, ac yr oedd ei chwilfrydedd yn anniwall. Yr oedd yn llythyrwr gwych ac yn llenor cydwybodol a difrif ym mhob genre, hyd yn oed wrth gellwair, ac yn ei waith gorau mae’n cyffwrdd â phrofiadau dyfnaf yr hil ddynol. Daeth yn arweinydd ac yn awdurdod cydnabyddedig ymhlith llenorion ac ysgolheigion Cymraeg canol y ddeunawfed ganrif.

Yn yr astudiaeth hon, gwëir edau hanes bywyd a hanes llên. Dangosir dylanwad ei gartref a hinsawdd ddiwylliannol Môn ar Lewis pan oedd ar ei brifiant, a dyfynnir yn helaeth o’i weithiau cynnar. Olrheinir ei ddatblygiad fel llenor wrth i ffiniau ei gymdeithas lenyddol ledu, a thrafodir hefyd y gwahanol fathau o ysgrifennu y rhoes gynnig arnynt, ei ymagweddu tuag at y traddodiad llenyddol Cymraeg a’r modd yr ymatebodd i lenyddiaeth Saesneg a’r ffasiynau cyfoes. Rhoir darlun crwn ohono fel llenor, ysgolhaig ac athro barddol, a’r darlun hwnnw wedi ei seilio ar ffeithiau dibynadwy a grynhoir ac a gyfleir yn gronolegol. Yn gefndir i’r cyfan y mae hanes un o’r canrifoedd mwyaf helbulus a chyfoethog a welodd llenyddiaeth Gymraeg erioed.

Daw Alun R. Jones o’r Creunant ger Castell-nedd. Addysgwyd ef ym mhrifysgolion Caerdydd a Rhydychen, ac erbyn hyn y mae’n was sifil yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

‘…a welcome addition to our acquaintance with thiskey figure in the development of a Welsh intelligentsia.’ Cambria

Hefyd o ddiddordeb: Cymdeithas Morrisiaid Môn

book launch, hawlfraint y llun Mark Davey Yn mynychu’r lansiad yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru, o'r chwith: Alun R. Jones, Yr Athro Branwen Jarvis (golygydd newydd Dawn Dweud) a Brynley Roberts (golygydd Dawn Dweud hyd ddiwedd proses gyhoeddi Lewis Morris, Nia Peris (golygydd Gwasg Prifysgol Cymru, John Rowlands (golygydd Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig), a Simon Brooks).

Alun Jones, llun: hawlfraint Mark Davey