CANU ANEIRIN

Golygwyd gan Syr Ifor Williams

tt xcii418 adargraffiad 1997 clawr caled 0-7083-0229-7

Y Gododdin yw craidd y gyfrol hon ac, yn ôl llawer, paratoi’r golygiad hwn oedd gorchest fwyaf Ifor Williams, yn goron ar flynyddoedd o ymchwilio i iaith astrus hynafol y gwaith a briodolir i Aneirin. Yn Y Gododdin, ceir cyfres o awdlau byrion yn coffáu arwriaeth y milwyr ifainc a laddwyd mewn brwydr yng Nghatraeth tua’r flwyddyn 600. Yn ogystal â’r gerdd ei hun ceir nodiadau esboniadol a rhagymadrodd cynhwysfawr. Addysgwyd Ifor Williams yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Bu ar y staff yno wedyn, yn Athro ac yna’n bennaeth Adran y Gymraeg nes iddo ymddeol yn 1947. Gwnaeth waith arloesol wrth olygu llawer o’r canu Cymraeg cynnar, gan gynnwys y gyfrol hon ac eraill megis Canu Llywarch Hen, Armes Prydein a Canu Taliesin.