allan o stoc: adargraffiad o dan ystyriaeth tt lxxxii176 1982
clawr caled
ISBN 0-7083-0629-2
Ysgrifennwyd Llyfr Du Caerfyrddin yn y drydedd ganrif ar ddeg. Fe gynnwys ryw ddeugain o gerddi a gyfansoddwyd, yn ôl pob tebyg, yn ystod y tair neu bedair canrif cyn ysgrifennu'r llawysgrif. Er na chredir bellach mai dyma'r llawysgrif Gymraeg hynaf, y mae'n debyg mai dyma'r casgliad hynaf o farddoniaeth Gymraeg mewn llawysgrifen. Yn yr argraffiad hwn, trefnwyd y testun yn fydryddol, ond gan ddilyn orgraff ac atalnodi'r gwreiddiol. Yn y Rhagymadrodd ymdrinnir ag oedran y llawysgrif ac â chynnwys y cerddi, ac yn y Nodiadau manylir yn bennaf ar y darlleniadau. Yn dilyn ceir Geirfa, lle y rhestrir holl ffurfiau neu eitemau geiriol y testun, dros ddeng mil mewn nifer, ac y cynigir ystyr i bron bob un ohonynt.
Dyma'r tro cyntaf i holl gynnwys y llawysgrif gael ei argraffu gyda aparatws golygyddol modern.