tt xxxii 412 1988 clawr caled ISBN 0-7083-0987-9
`Testun cyflawn a safonol o waith "bardd mawl mwyaf y bedwaredd ganrif ar ddeg". . . ' (Y Faner)
Bardd mawl mwyaf y bedwaredd ganrif ar ddeg oedd Iolo Goch. Pedair cerdd ar bymtheg ar hugain o'i waith sydd wedi goroesi, a cheir yn y gyfrol hon am y tro cyntaf destunau beirniadol o bob un mewn orgraff fodern, ynghyd â nodiadau manwl yn egluro'r ystyr ac yn trafod problemau testunol. Fe fu Iolo'n arloeswr ym maes y cywydd mawl a dengys ei gerddi holl egni a dyfeisgarwch y cyfnod cyffrous hwn yn hanes y traddodiad barddol. Yr oedd yn fardd craff a gwybodus, a derbyniai nawdd gan uchelwyr pwysicaf Cymru ar ei deithiau clera drwy'r wlad. Felly y mae ei gerddi'n ddrych o fywyd cymdeithasol a gwleidyddol Cymru yn y cyfnod ansicr a dyrys cyn gwrthryfel Glyndºr.