LLÊN CYMRU

Golygydd: Yr Athro Gruffydd Aled Williams, Prifysgol Cymru, Aberystwyth

Bwrdd Golygyddol

Dr Jane Cartwright, Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan; Dr Cathryn Charnell-White, Canolfan Uwchedrydiau Cymreig a Cheltaidd; Yr Athro Sioned Davies, Prifysgol Caerdydd; Dr Marged Haycock, Prifysgol Cymru, Aberystwyth; Yr Athro Dafydd Johnston, Prifysgol Cymru, Abertawe; Yr Athro Gerwyn Wiliams, Prifysgol Cymru, Bangor.

ISSN 0076-0188 Cyhoeddir yn flynyddol.

book coverY mae Llên Cymru, a gyhoeddir gan Fwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru, yn gylchgrawn a chanddo draddodiad digymar o gyhoeddi ymdriniaethau safonol â llenyddiaeth Gymraeg. Ceir ynddo gyfraniadau yn ymwneud â llenyddiaeth Gymraeg o bob cyfnod, yn erthyglau llawn, yn nodiadau byrion, ac yn adolygiadau ar lyfrau ysgolheigaidd a beirniadol newydd. Y mae llawer o'r cyfranwyr yn ysgolheigion blaenllaw sy'n aelodau o adrannau Cymraeg (neu adrannau eraill) Prifysgol Cymru, ond y mae'n bolisi hefyd gan y cylchgrawn i gyhoeddi peth o'r gwaith gorau a gyflwynir mewn traethodau ymchwil gan ysgolheigion ifainc. Cyhoeddir y cylchgrawn (sy'n amrywio o ryw 160-190 tudalen) ym mis Gorffennaf bob blwyddyn. Y mae Llên Cymru (yr unig un o gylchgronau'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd a gyhoeddir yn gyfan gwbl yn Gymraeg) yn ddarllen anhepgor i'r sawl sy'n ymddiddori o ddifrif yn llenyddiaeth Cymru.

`Gwerth arbennig Llên Cymru i mi yw ei fod yn cyflwyno, yn glir a dirodres, beth o ffrwyth yr ymchwil ddiweddaraf i'n llên yn ogystal â chostrelu myfyrdod aeddfed rhai o'n hysgolheigion mwyaf profiadol. Rhwng tudalennau'r cylchgrawn cefais, dro ar ôl tro, oleuni ac arweiniad ar gyfer fy ngwaith ymchwil fy hun, heb sôn am y mwynhad o ddysgu mwy am holl rychwant llenyddiaeth Gymraeg.' (Dr Ceri Davies)

' . . . dylai pawb sy'n ymddiddori'n ddeallus yn hanes llenyddiaeth Gymraeg ei ddarllen: cânt flas yn ogystal â budd o wneud hynny.' (Yr Athro Emeritws Geraint Gruffydd)

'Dyma'r unig gyfnodolyn sy'n rhoi sylw cyson i holl rychwant hanes ein llenyddiaeth. . . I lenorion felly mae'n sine qua non.' (Yr Athro Emeritws J. Gwyn Griffiths)

'Y mae Llên Cymru yn anhepgorol am fod yn y cylchgrawn gymaint o ddefnyddiau safonol sy'n ymwneud â phob agwedd ar lenyddiaeth Gymraeg.' (Yr Athro Gwyn Thomas)

'Am dros ddeugain mlynedd y mae Llên Cymru wedi bod yn llewyrchu goleuni ar holl gwrs ein traddodiad llenyddol. Y mae pob rhifyn ohono yn lamp olau.' (Yr Athro Hywel Teifi Edwards)

Anfoner cyfraniadau i Lên Cymru, wedi eu teipio neu eu geirbrosesu gyda gofod dwbl rhwng y llinellau, at y Golygydd, yr Athro Gruffydd Aled Williams, Adran y Gymraeg, Yr Hen Goleg, Stryd y Brenin, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2AX (Ffôn: 01970 622135/7; Ffacs: 01970 622976). Wrth baratoi eu cyfraniadau dylai awduron ddilyn y cyfarwyddiadau a geir yn y llyfryn Cyfarwyddiadau i Awduron, gan Elwyn Davies (ail argraffiad, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1969) a hefyd yn Hart's Rules for Compositors and Readers at the University Press Oxford (argraffiad newydd diwygiedig, Oxford, 1978).

Cynnwys Cyfrol 29 (2006)

Cynnwys Cyfrol 28 (2005) 198 tt Gorffennaf 2005

Cynnwys Cyfrol 27 (2004)

Cynnwys Cyfrol 25 (2002) ‘Englynion’ y Misoedd: Testun C neu Fersiwn Nyffryn Nicolas Jacobs ‘Ymddiddan Taliesin ac Ugnach’: Propaganda Cymreig yn Oes y Croesgadau? Graham R. Isaac Llyfr Melangell: Ail-greu Llyfr Defosiynol Daniel Huws Arlliw y Diwygiad Protestannaidd ar Destun Pabyddol Honedig Patricia Williams ‘Ymddiddan rhwng y Byw a’r Marw, G{r a Gwraig’ (Angharad James): Cywiriad Nia Mai Jenkins Cofia Ddyn wrth Fyned Heibio Gwenllian M. Awbery Beriah Gwynfe Evans: Mab y Dyn Od Rhiannon Ifans ‘Cadw’r Iaith yw Cadw Crefydd Cymru’: Yr Enwadau Ymneilltuol a’r Iaith Gymraeg, 1918–1939 Robert Smith ‘Beirdd ac Athronwyr a Diwinyddion i gyd’: Y Gymdeithas Chwarelyddol Ddiwylliedig yng Ngwaith Kate Roberts a T. Rowland Hughes Gwen Angharad Jones Nofelwyr Cymraeg a’r ‘Gymru Americanaidd’ John Rowlands Nodiadau

Cynnwys Cyfrol 24 (2001)

Cynnwys Cyfrol 23 (2000)

Cynnwys Cyfrol 22 (1999)

Cynnyws Cyfrol 21 (1998)

Cynnwys Cyfrol 20 (1997)

Cyfrol 19 (1996) Cynnwys: Nodyn Golygyddol Ceri W. Lewis; Beirdd a Noddwyr y Bymthegfed Ganrif (Rhan III) D. J. Bowen; Iaith, Llên a Chrefydd yn yr Unfed Ganrif ar Bymtheg Glanmor Williams; John Penri: Piwritan a Chymro J. Gwynfor Jones; Ar Glawr neu ar Lafar: Llenyddiaeth a Llyfrau Merched Cymru o'r Bymthegfed Ganrif i'r Ddeunawfed Ceridwen Lloyd-Morgan; 'Hanes Pedwar o Gymmydogion', gan William Williams, Llandygai Dafydd Glyn Jones; Baledi Levi Gibbon, Thomas Harris, Stephen Jones, ac Eraill M. Lilian Parry-Jones; Brodyr Maria Jane Williams a'i Cefndir T. G. Davies; Yr Eglwysi a'r Iaith yn Oes Victoria R. Tudur Jones; Nodiadau: Proffwydoliaeth Dewi Sant R. Wallis Evans; Talent, Dawn, Arthrylith, Peiriant J. E. Caerwyn Williams

Cyfrol 18 Rhifyn 3 a 4 (1995) Cynnwys: Yr Iaith yng Nghymru'r Oesoedd Canol Llinos Beverley Smith; Arolwg o'r Gymraeg yn Niwylliant Cymru Gwyn Thomas; Dafydd Ddu o Hiraddug R. Geraint Gruffydd; Beirdd a Noddwyr y Bymthegfed Ganrif (Rhan II) D.J. Bowen; Y Cefndir Llafar i Canwyll y Cymry Siwan Richards; Comisiynu'r Rhieingerdd Eisteddfodol, 1855-58 Hywel Teifi Edwards; `Mynwy Gu'. Islwyn yn ei gynefin: Sir Fynwy yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg Sian Rhiannon Williams; Daniel Owen a'r Beibl Derec Llwyd Morgan; John Rhys a Byd Arolygwr ei Mawrhydi yng Nghymru Oes Victoria W. Gareth Evans; Nécrologie. William Clifford Elvet Thomas 1905-1994 Geraint Tudur. Nodiadau ac Adolygiadau.

Cyfrol 18 Rhifyn 1 a 2 (1994) Cynnwys: Y Bardd Celtaidd J.E. Caerwyn Williams; Yr Hengerdd A.O.H. Jarman; Beirdd y Tywysogion R. Geraint Gruffydd; Y Canu Mawl yn Iwerddon Proinsias Mac Cana; Beirdd a Noddwyr y Bymthegfed Ganrif D.J. Bowen; Graddau Barddol Tudur Aled D.J. Bowen; Marwnad Bachgennes Dafydd Huw Evans; `Garedig Ysbryd': Golwg ar Ganu Elfed Branwen Jarvis. Nodiadau ac Adolygiadau.