UWP
Chwilio ISBN
Chwilio (Saesneg)
Chwilio (Cymraeg)

Fel nifer o gyrff cenedlaethol eraill, ffurfiwyd Gwasg Prifysgol Cymru ar adeg allweddol yn hanes diweddar Cymru. Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, brwydrai nifer o genhedloedd Ewrop dros hunan-reolaeth, ac nid oedd Cymru’n eithriad.

Seiliwyd trafodaethau gwleidyddol a deallusol y cyfnod ar y cysyniad o hunaniaeth genedlaethol, ac efallai nad yw’n syndod i hyn gyd-ddigwydd â’r dadeni mewn llenyddiaeth Gymraeg a chyhoeddiadau Cymraeg. Arweiniodd y dyhead am sefydliadau cenedlaethol a fyddai’n atgyfnerthu bywyd diwylliannol a gwleidyddol Cymru at sefydlu nifer o gyrff, gyda Phrifysgol Cymru yn eu plith.

Yng Nghomisiwn Brenhinol yr Arglwydd Haldane ym 1918, argymhellwyd y dylid sefydlu Gwasg Prifysgol yn gorff a fyddai’n “gwasanaethu fel dolen gref rhwng y Brifysgol a phobl Cymru, gan hefyd roi cyfleoedd ac anogaeth yr oedd ei ddirfawr angen ar fyfyrwyr oddi mewn i’r Brifysgol ac oddi allan iddi.”

Ers ei sefydlu, bu’r Wasg yn rhan o ymdrech genedlaethol ehangach y bawysleisiai gwerth addysg fel elfen ganolog i’r ymdeimlad o genedligrwydd Cymreig. Fe’i sefydlwyd er mwyn cynnig strwythur ac arbenigedd mewn cyhoeddiadau’n perthyn berthyn i ysgolheictod Cymraeg a Chymreig, cyhoeddiadau a gyfyngwyd cyn 1922 i gyrion y byd academaidd.

Yn wreiddiol, cydweithiai’r Wasg yn agos gyda’i chwaer-sefydliad, y Bwrdd Astudiaethau Celtaidd, a sefydlwyd hefyd yn dilyn argymhelliad Haldane. Gyda’r berthynas hon, gosodwyd sail gadarn ar gyfer ymchwil academaidd yng Nghymru o ran ymchwil ysgolheigaidd a’r cyhoeddiadau a fyddai’n deillio ohono.

Yn sgil natur arbenigol y teitlau am Gymru, deallodd sylfaenwyr y Wasg na allai’r rhaglen gyhoeddi ei hariannu ei hun, a chytunwyd ar gyllido’r Wasg trwy gefnogaeth ariannol Prifysgol Cymru. Bu Prifysgol Cymru yn gwneud hyn am ganrif erbyn hyn, gan ddiogelu cyfraniad diwylliannol y Wasg i Gymru a’r gymuned academaidd y tu hwnt i Gymru. Gyda hynny, bu modd parhau i gyhoeddi gweithiau ysgolheigaidd o’r radd flaenaf.

Ymhlith nifer fawr o gyhoeddiadau’r Wasg y mae Geiriadur Prifysgol Cymru, gwaith y mae Gwasg Prifysgol Cymru yn ymfalchïo yn ei gyhoeddi. Ers 1922, cyhoeddodd y Wasg rhai o brif weithiau diwylliannol Cymru wedi’u golygu gan academyddion blaenllaw, er budd y Cymry darllengar: The Poetical Works of Dafydd Nanmor (1923); Gwaith Tudur Aled (1926); Pedeir Keinc y Mabinogi (1930); Canu Aneirin (1938); Gwaith Dafydd ap Gwilym (1952); Trioedd Ynys Prydein (1961); Gweithiau Pantycelyn (1964), Cerddi Dafydd ap Gwilym (2010), o enwi dim ond rhai. Gwnaed Llawysgrif Hendregadredd (1933), Llyfr Gwyn Rhydderch (1973) a Llyfr Du Caerfyrddin (1982) hwythau ar gael i gynulleidfa eang, yn ogystal ag ymdriniaethau trylwyr ar ryddiaith, barddoniaeth a hanes Cymru.

Mae gan y Wasg berthynas agos gyda Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth, perthynas a arweiniodd at gyhoeddi nifer o gyfresi pellgyrhaeddol, gan gynnwys The Visual Culture of Wales, lolo Morganwg and the Romantic Tradition of Wales ac, yn fwy diweddar, cyfres Cymru a’r Chwyldro Ffrengig, oll yn cynrychioli’r ymchwil rhagorol a wnaed ym maes astudiaethau Cymreig yn y cyfnod diweddar.

Mae’r gwaith o gyfrannu at ddatblygiad astudiaethau Cymreig, ynghyd ag at ddealltwriaeth o ddiwylliant, hanes, iaith ac etifeddiaeth unigryw Cymru, yn parhau heddiw. Cyhoedda’r Wasg amrywiaeth o gyfresi sy’n adlewyrchu cyfoeth creadigol y genedl, gan gynnwys Writing Wales in English, Dawn Dweud, Writers of Wales, Studies in Welsh History, Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig, a chyfresi newydd megis Gender Studies in Wales, The Public Law of Wales a Safbwyntiau. At hynny, mae cyfnodolion y Wasg yn cynnwys erthyglau sy’n canolbwyntio’n benodol ar Gymru a’i thirlun addysgol, cymdeithasol a gwleidyddol.

Cyhoeddwn hefyd ar bynciau eraill: hanes ac astudiaethau canoloesol; astudiaethau ar lenyddiaeth a diwylliant Ffrainc, Sbaen, Portiwgal a’r Almaen; beirniadaeth lenyddol; gwleidyddiaeth; athroniaeth, y cyfryngau; ac astudiaethau diwylliannol. Mae’r Wasg yn cydweithio hefyd gydag ystod eang o awduron o sefydliadau academaidd a diwylliannol rhyngwladol.  Mae cyfresi beirniadol cydnabyddedig megis Political Philosophy Now, Gothic Literary Studies, French and Francophone Studies a Religion and Culture in the Middle Ages yn datblygu disgwrs eu meysydd ar hyd amrywiaethau eang yn y celfyddydau a’r dyniaethau.

Mae sicrhau cynulleidfa eang i’r ymchwil a gyhoeddir gennym yn ganolog i nod y Wasg. Cydweithia’n golygyddion yn agos ag awduron, gan gynnig o’u profiad ar sut i droi gwaith ymchwil yn lyfrau deniadol ar gyfer yr arbenigwr a’r darllenydd cyffredin fel ei gilydd. Mae rhai o brif weithiau’r Wasg yn ganlyniad i’r berthynas arbennig hon, gweithiau megis Geiriadur yr Academi, The Welsh Academy English-Welsh Dictionary (1995), yn ogystal â’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (1998) a Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (2008).

Ers sefydlu’r Wasg ym 1922 cyhoeddwyd dros 3,500 o deitlau, ac erbyn heddiw cyhoeddir tua 70 teitl yn flynyddol. Ers 2009, mae ein rhestr o gyhoeddiadau electronig wedi ehangu i 250 o argraffiadau digidol. Gyda dros 800 teitl mewn print drwy ein partneriaeth strategol gyda Gwasg Prifysgol Chicago, Cyngor Llyfrau Cymru a nifer o ddosbarthwyr eraill, mae gennym rwydwaith ddosbarthu effeithiol fyd-eang ar gyfer ein cyhoeddiadau.