Sefydlwyd Gwasg Prifysgol Cymru yn 1922. Mae Prifysgol Cymru yn un o brifysgolion mwyaf Prydain Fawr, a hi biau’r Wasg yn gyfan gwbl. Erbyn hyn mae’r Wasg yn cyhoeddi bron 60 o deitlau newydd bob blwyddyn yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac mae’n canolbwyntio ar chwe phrif faes:

  • Hanes;
  • Athroniaeth wleidyddol ac astudiaethau crefyddol;
  • Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd;
  • Astudiaethau llenyddol;
  • Astudiaethau Ewropeaidd;
  • Astudiaethau canoloesol.

Mae’r Wasg yn cefnogi rhagoriaeth mewn ymchwil academaidd yng Nghymru a’r tu hwnt, ac yn dal at ei hymrwymiad i sicrhau safonau golygu a chynhyrchu uchel. Datganiad cenhadaeth

Cliciwch yma am gyngor i awduron sut i gyflwyno cynnig ar gyfer llyfr i'w gyhoeddi.