UWP
Search ISBN
Search titles in English
Search titles in Welsh

Y Gyfraith yn ein Llên

Author(s): R. Gwynedd Parry

Language: Welsh

June 2019304 pages

Paperback - 9781786834270 eBook - epub - 9781786834294 eBook - mobi - 9781786834300 eBook - pdf - 9781786834287

About The Book

Ar hyd y canrifoedd, bu’r gyfraith yn ysgogi, ysbrydoli a chynddeiriogi beirdd a llenorion Cymru. Dyma gyfrol arloesol sydd yn adrodd hanes yr ymateb llenyddol i syniadau, swyddogion a sefydliadau’r gyfraith. Ceir ynddi astudiaeth thematig a phanoramig sydd yn olrhain y gyfraith mewn llenyddiaeth Gymraeg o’r oesoedd canol cynnar hyd at ein dyddiau ni. Cawn foli a marwnadu, diolch a dychanu, chwerthin a chrio, oll yn tystio i bwysigrwydd y gyfraith mewn cymdeithas ac i swyddogaeth llên fel cyfrwng i fynegi barn ar gyfiawnder. Deuwn hefyd i ddeall priod le’r gyfraith i’n hunaniaeth genedlaethol ar hyd yr oesau, a hynny trwy gyfrwng crefft ac awen. Dyma’r tro cyntaf i astudiaeth gynhwysfawr o’r maes ymddangos, ac y mae’n torri tir newydd mewn hanesyddiaeth gyfreithiol Gymreig yn ogystal â chyfrannu’n bwysig i hanesyddiaeth lenyddol.

Endorsements

‘Cyfrol ddiddorol a dysgedig, sy’n dangos pwysigrwydd dealltwriaeth o’r gyfraith wrth ddarllen elfennau o’n llenyddiaeth fel cenedl – ac hefyd bwysigrwydd gwybodaeth o’n llenyddiaeth, yn enwedig ein barddoniaeth, er mwyn cyrraedd gwir ddealltwriaeth o’n cyfraith yn ei chyd-destun cymdeithasol. Mae’r gwaith yn llunio ac yn creu maes ymchwil rhyngddisgyblaethol newydd ar Gymru a’r Gymraeg.’
- Yr Athro Thomas Glyn Watkin CF

‘Mae’r gyfrol gyfoethog hon yn astudiaeth drylwyr a hynod ddiddorol o’r berthynas gymhleth ac amlochrog rhwng y byd llenyddol a byd y gyfraith, rhwng beirdd a barnwyr, rhwng awduron ac ynadon. Yn ogystal â bod yn arolwg llenyddol, mae’r llyfr hefyd yn gofnod hanesyddol a chymdeithasol gwerthfawr. Gan gofio fod gan y Cymry eu cyfreithiau eu hunain unwaith, cyn gorfod derbyn deddfau’r gorchfygwr estron, mae brwydr cenedl i gadw’i hunaniaeth yn rhedeg fel gwe drwy’r gwaith. Ac ar ben popeth, mae’n llyfr darllenadwy iawn.’
- Yr Athro Alan Llwyd

'Mae testun y gyfrol hon yn hollol arloesol ac yn creu maes ymchwil hollol newydd a chyffrous a fydd yn bendant yn ysgogi gwaith ymchwil pellach mewn nifer o gyfeiriadau. Mae'r awdur dysgedig yn honni wrthym ar ddechrau'r daith mai 'pererinion ar siwrnai ddiddiwedd tuag at berffeithrwydd anghyraeddadwy yw ysgolheigion ac ymarferwyr y gyfraith fel ei gilydd'. Thema'r gyfrol gyfoethog hon yw'r ffordd y bu'r gyfraith yn annog ac yn ysbrydoli ein beirdd a'n llenorion drwy'r canrifoedd o'r oesoedd canol cynnar hyd at y dwthwn hwn. Un o'r prif themâu y trafodir mor drylwyr yma yw swyddogaeth y gyfraith o fewn ein hunaniaeth genedlaethol drwy gydol nifer fawr o gyfnodau hanesyddol, a threfnir y deunydd mewn dull cronolegol o glawr i glawr, gan gychwyn gydag Oes ein Tywysogion brodorol hyd at gyfnod yr ugeinfed ganrif. Ac mae'r astudiaeth ar ei hyd yn amlwg yn seiliedig ar ffrwyth ymchwil manwl a gofalus odiaeth fel yr adlewyrchir yn y llyfryddiaeth lawn a ddarperir ar ein cyfer o fewn y gyfrol (gweler tt. 283-302).'
- Dr J. Graham Jones, Y Cymro

Contents

Bywgraffiad
Rhagair
Byrfoddau
‘Nes na’r hanesydd . . .’: Adnabod y Genre
‘Cymhenraith gyfraith’: Cyfraith a Phencerdd yn Oes y Tywysogion
‘Sesar dadlau a sesiwn’: Beirdd yr Uchelwyr a’r Gyfraith
‘Yn gyfrwys yn y gyfraith’: y Llysoedd yn Llên y Dyneiddwyr
‘Rhostiwch y cyfreithwyr’: Gweledigaethau o’r Farn
‘Rhag gwŷr y gyfraith gas’: y Gyfraith mewn Baled ac Anterliwt
‘Hen gyfraith bengam’: y Gyfraith yng Ngweithiau’r Radicaliaid
‘Aur ben cyfreithwyr y byd’: Rhwng Radicaliaeth a Chenedlaetholdeb
‘Yn erbyn arglwydd, gwlad a deddf’: Llên, Cyfraith a Phrotest
Crynhoi
Llyfryddiaeth
Mynegai

About the Author(s)

R. Gwynedd Parry

Dr R. Gwynedd Parry is a barrister and a graduate of the universities of Aberystwyth and Lancaster. He is currently a Senior Lecturer in Law at Swansea University.Mae R. Gwynedd Parry yn ysgolhaig ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn fargyfreithiwr. Yn 2010, cafodd ei ethol yn Gymrawd i’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, ac yn Gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2018.

Read more