Catrin o Ferain

Mam Cymru

Author(s) Helen Williams-Ellis

Language: Welsh

  • May 2026 · 272 pages ·234x156mm

  • · Hardback - 9781837723454
  • · eBook - pdf - 9781837723461
  • · eBook - epub - 9781837723478

Ganed Catrin o Ferain yng ngogledd-ddwyrain Cymru ym 1535, mewn cyfnod  hanesyddol gythryblus. Bu’n rhaid iddi droedio’n gyfrwys ac yn ofalus gydol ei hoes. Yn aeres gyfoethog o’i chrud i’w bedd, priododd yn dda, a’i blaenoriaeth oedd gwarchod ei hetifeddiaeth. Gyda’i hail ŵr Rhisiart Clwch, teithiodd Catrin yn helaeth ar draws cyfandir Ewrop, ac fe baentiwyd y darlun enwog ohoni pan oedd yn Antwerp. Bu’n weddw deirgwaith, ond tristwch mwyaf ei bywyd oedd y cyhuddiad yn erbyn ei mab hynaf o fod yn fradwr, a’i farwolaeth erchyll ar grocbren Tyburn ym 1587. Bum mlynedd yn ddiweddarach, yr oedd Catrin hithau wedi’i chladdu. Yn ystod ei hoes, defnyddiodd Catrin y gyfundrefn farddol i hyrwyddo ei henw da, a dadlennol a difyr yw’r dyfyniadau sy’n britho’r cofiant. Rhyfeddol hefyd yw’r dystiolaeth sy’n dangos y cyfeillgarwch dwfn rhyngddi a’r bardd Wiliam Cynwal, ac mae’r gyfrol arloesol hon yn cyplysu tystiolaeth weledol y cyfnod modern cynnar gyda barddoniaeth beirdd yr uchelwyr.

Diolchiadau
Rhestr o luniau a mapiau
Catrin o Ferain: rhai dyddiadau
Rhagair gan Robin Gwyndaf
Rhagymadrodd
Pennod 1Llinach Catrin o Ferain a’r cysylltiad â’r Tuduriaid
Pennod 2 Llinach Catrin o Ferain o du ei thad Tudur ap Robert
Pennod 3Catrin a Siôn Salsbri, 1558–1566
Pennod 4 Catrin a Rhisiart Clwch, 1567–1570
Pennod 5Catrin a Morys Wyn, 1570–1580
Pennod 6Catrin ac Edward Thelwal, 1582–1591
Pennod 7 Marw Catrin o Ferain, 1591
Llofnodion Catrin o Ferain
Nodiadau
Llyfryddiaeth
Mynegai

Author(s): Helen Williams-Ellis

Gynt yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr rhaglenni dogfen, cwblhaodd Helen Williams-Ellis ei thraethawd doethur ‘Delweddu Catrin mewn Llun a Gair’ yn 2019.

Read more

Related Titles