Cof Diwylliannol yng Nghymru’r Cyfnod Modern Cynnar

Author(s) Dewi Alter

Language: Welsh

  • May 2025 · 248 pages ·216x138mm

  • · Paperback - 9781837722402
  • · eBook - pdf - 9781837722419
  • · eBook - epub - 9781837722426

About The Book

Un o brif seiliau hunaniaeth genedlaethol y Cymry yn ystod y cyfnod modern cynnar oedd eu hanes – roedd eu dealltwriaeth o’u gorffennol yn cynnig iddynt amlinelliad o’r hyn a oedd yn eu diffinio. Mae’r gyfrol hon yn archwilio naratifau hanes yn ôl damcaniaeth cof diwylliannol. Wrth ystyried testunau sy’n trafod hanes y Cymry fel cof diwylliannol cenedlaethol (hynny yw, dealltwriaeth o’r gorffennol a oedd yn diffinio’r genedl Gymreig), teflir goleuni o’r newydd ar hunaniaeth Gymreig. Mewn cyfnod o newidiadau crefyddol, gwleidyddol a deallusol arwyddocaol, felly, cafodd y gorffennol Cymreig ei ail-ddyfeisio yn ôl daliadau’r awduron; ac, o graffu ar sut yr aethpwyd ati i ddiffinio’r genedl trwy gofnodi’r gorffennol, amlygir inni arwyddocâd cofio’r gorffennol.

Contents

Diolchiadau
Byrfoddau
Geirfa:
Cyflwyniad
Cof diwylliannol yn nhestunau’r unfed ganrif ar bymtheg
Y Ffydd Ddi-ffuant
Drych y Prif Oesoedd
Casgliadau
Llyfryddiaeth

About the Author(s)

Author(s): Dewi Alter

Mae Dewi Alter yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ac Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt.

Read more

-
+

Syniadau Anrhegion Nadolig | Christmas Gift Guide